Newyddion S4C

Mathemateg: Llawer o ddisgyblion yn 'tanberfformio' yng Nghymru

Mathamateg mewn ysgol

Mae llawer o ddisgyblion yn 'tanberfformio' mewn mathemateg yng Nghymru yn ôl adroddiad newydd gan gorff arolygu Estyn. 

Dywedodd yr adroddiad fod ansawdd addysg fathemateg ar draws y wlad yn parhau i fod yn "amrywiol" a nifer o ddisgyblion ddim yn cyrraedd eu potensial yn sgil "addysgu anghyson a chymorth annigonol".

Mae arolygiadau diweddar, ymweliadau ag ysgolion cynradd ac uwchradd ac ymatebion i arolygon cenedlaethol yn rhan o'r dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad. 

Er fod yr adroddiad yn cydnabod rhai arferion effeithiol, mae'n datgan fod gormod o ysgolion yn "ddiffygiol mewn meysydd allweddol" yn gyffredinol. 

Ychwanegodd yr adroddiad fod yr addysgu yn fwyaf effeithiol pan oedd gan athrawon ddisgwyliadau uchel a bod disgyblion yn datblygu dealltwriaeth sylweddol o'r pwnc. 

Ar y llaw arall, roedd yr addysgu yn llai effeithiol pan nad oedd yr addysg yn ddigon heriol yn ôl yr adroddiad. 

'Addasu'

Roedd athawon yn or-ddibynol ar gynlluniau gwaith wedi eu prynu i mewn "heb ddigon o addasu i ddiwallu anghenion disgyblion" yn ôl yr adroddiad. 

Dywedodd y Prif Arolygydd, Owen Evans: "Mae gormod o ddisgyblion yng Nghymru nad ydyn nhw’n cyrraedd eu llawn botensial mewn mathemateg oherwydd bod ansawdd yr addysgu a’r arweinyddiaeth yn amrywio mor eang rhwng ysgolion. 

"Mae addysg fathemateg gref yn hanfodol, nid yn unig i ddyfodol unigolion, ond i ffyniant Cymru yn y dyfodol."

Ychwanegodd yr adroddiad bod angen cwricwlwm mathemateg cynhwysfawr sy'n "adeiladu yn raddiol ar ddysgu disgyblion".

Mae cyfres o argymhellion wedi eu gwneud gan Estyn i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac arweinwyr ysgolion i gryfhau ansawdd addysgu mathemateg. 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae codi safonau mewn mathemateg a rhifedd yn flaenoriaeth ac rydym ni wedi gweithio yn agos gydag Estyn ac awdurdodau lleol i ddatblygu ystod o gefnogaeth sy'n diwallu anghenion ysgolion.

"Rydym yn rhoi mwy na £6.5 miliwn ar gyfer prosiectau mathemateg a rhifedd dros y dair blynedd nesaf, gydag addysgu proffesiynol ar gyfer athrawon eisoes ar waith."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.