Newyddion S4C

Car wedi methu stopio ar ôl bwrw merch 17 oed yng Nghaerdydd

Clarence Road, Grangetown

Mae’r heddlu yn ymchwilio wedi i yrrwr fan fethu a stopio ar ôl gwrthdrawiad â merch 17 oed yng Nghaerdydd.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng fan wen a beic ar Ffordd Clarence yn Grangetown, rhwng 06.00 a 06.30 fore Iau 1 Mai.

Fe wnaeth y gyrrwr fethu a stopio yn dilyn y gwrthdrawiad, a ddigwyddodd yn agos i orsaf petrol a chroesfan sebra, gan adael y ferch 17 oed oedd ar gefn y beic gyda chleisiau a briwiau.

Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i bobl sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad neu luniau fideo, i gysylltu â nhw gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2500135986.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.