Newyddion S4C

Rhyddhau dyn ar fechnïaeth wedi tanau mewn tai yn gysylltiedig â Keir Starmer

tan starmer.jpg

Mae pedwerydd dyn a gafodd ei arestio yn rhan o'r ymchwiliad i danau mewn tai a cherbyd yn gysylltiedig â Syr Keir Starmer wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.  

Cafodd y dyn 48 oed ei arestio ym Maes Awyr Stansted ddydd Llun ar amheuaeth o gynllwynio i gynnau tân yn fwriadol, gyda'r bwriad o beryglu bywyd.    

Cyhoeddodd Heddlu'r Met fore Mercher ei fod wedi ei ryddhau ar fechnïaeth hyd at ddyddiad ym mis Gorffennaf.  

Mae tri dyn eisoes wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r tanau. 

Mae Petro Pochynok yn 34 oed a Roman Lavrynovych yn 21 oed, ac mae'r ddau yn dod o Wcráin.   

Mae'r trydydd dyn, Stanislav Carpiuc sy'n 26 oed wedi ei eni yn Wcráin ac wedi hawlio dinasyddiaeth Rwmania. 

Mae disgwyl i'r tri ymddangos yn Llys yr Old Bailey ddydd Gwener. 

Mae Roman Lavrynovych, o Sydenham, de-ddwyrain Llundain, wedi ei gyhuddo o dri achos o gynnau tân gyda'r bwriad o beryglu bywyd. 

Mae Petrol Pochynok, o Islington, gogledd Llundain a Stanislav Carpiuc, o Chadwell Heath, dwyrain Llundain, wedi eu cyhuddo o gynllwynio i gynnau tân gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Cynheuodd dau o'r tanau yn Kentish Town, gogledd Llundain – un ohonyn nhw yn orian mân 12 Mai yn y cartref lle roedd Syr Keir Starmer yn byw cyn iddo ddod yn Brif Weinidog y DU, a symud i Downing Street. 

Cafodd car ei roi ar dân yn yr un stryd bedwar diwrnod cyn hynny ar 8 Mai.

Cynheuodd y tân arall ar 11 Mai, wrth ddrws tŷ a oedd wedi ei droi yn fflatiau yn Islington, Llundain.   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.