Newyddion S4C

Cymru'n colli'n drwm yn eu gêm olaf cyn Euro 2025

Cymru v Eidal Mehefin 2025

Mae Tîm Pêl-droed Menywod Cymru wedi colli 1-4 yn erbyn yr Eidal yn eu gêm olaf yng Nghyngrair y Cenhedloedd yn Abertawe nos Fawrth.   

Hon oedd eu gêm olaf cyn Euro 2025 yn Y Swistir fis Gorffennaf, pan fydd Cymru yn cystadlu yn rowndiau terfynol un o'r prif bencampwriaethau am y tro cyntaf erioed. 

Yn debyg i'r cymal cyntaf rhwng Cymru a'r Eidal yng ngêm agoriadol Cynghrair y Cenhedloedd, llwyddodd yr Eidal i fynd ar y blaen yn gynnar wedi naw munud o chwarae. 

Ar ôl i'r Eidalwyr sicrhau cornel, Elena Linari sgoriodd y gôl gyntaf.  

Daeth ail gôl yr Eidalwyr wedi 20 munud o chwarae, gyda'r capten Cristiana Girelli yn penio i gefn y rhwyd.  

Sgoriodd Sofia Cantore drydedd gôl Yr Eidal ychydig funudau cyn hanner amser.  

A daeth y bedwaredd gôl wedi pum munud ychwanegol o chwarae yn yr hanner cyntaf, gyda'r capten Cristiana Girelli yn sgorio ei hail gôl.  

Daeth Safia Middleton-Patel ymlaen fel gôl-geidwad i Gymru wedi i Olivia Clark gael anaf.    

Fishlock

Daeth ffefryn y dorf, Jess Fishlock oddi ar y fainc wedi 77 munud  o chwarae. A daeth achos dathlu yn fuan wedi hynny, wrth iddi sgorio unig gôl Cymru.   

Ond wedi noson siomedig ar y cyfan, gorffennodd Cymru ar waelod y tabl yng ngrŵp A, gyda dau bwynt.     

Disgynnodd tîm Rhian Wilkinson o haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd nos Wener diwethaf ar ôl colli o 1-0 yn erbyn Denmarc oddi cartref.  

Fe fydd y tîm yn dychwelyd i gynghrair B ar gyfer eu hymgyrch nesaf yn y gystadleuaeth.

Er gwaetha'r siom yng Nghyngrair y Cenhedloedd, bydd carfan Cymru nawr yn canolbwyntio ar Ewro 2025 yn y Swstir, wrth iddyn nhw greu hanes a chystadlu yn y bencampwriaeth am y tro cyntaf erioed. 

Mae Sophie Ingle nôl yn ymarfer gyda Chymru, ac mae hynny'n newyddion calongol gan nad yw hi wedi gwneud hynny ers iddi gael anaf difrifol i'w choes ym mis Medi y llynedd. 

A'r gobaith ydy y bydd Jess Fishlock yn parhau yn holliach ar ôl dychwelyd i chwarae i Gymru wedi anaf diweddar.

Bydd Rhian Wilkinson yn cyhoeddi ei charfan ar gyfer Euro 2025 ar Yr Wyddfa ar 19 Mehefin.

Mae Cymru mewn grŵp anodd. Byddan nhw'n herio'r Iseldiroedd ar 5 Gorffennaf, yna'n wynebu Ffrainc ar 9 Gorffennaf. 

A bydd gêm ola'u grŵp yn erbyn Pencampwyr Euro 2022, Lloegr ar 13 Gorffennaf.      

 

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.