Newyddion S4C

Wrecsam: Dyn wedi dioddef anafiadau 'all newid ei fywyd' mewn gwrthdrawiad

S4C

Mae dyn wedi dioddef “anafiadau difrifol” all “newid ei fywyd” yn dilyn gwrthdrawiad ger Wrecsam ddydd Mawrth. 

Fe gafodd swyddogion Heddlu’r Gogledd eu galw i’r digwyddiad ar ffordd yr A525 rhwng Wrecsam a'r Eglwys Wen (Whitchurch) yn Swydd Amwythig am 05.37 fore ddydd Mawrth.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Peugeot 306 lliw coch a fan Ford Transit, meddai’r llu. 

Cafodd gyrrwr y Peugeot ei gludo i’r ysbyty yn Stoke gan yr Ambiwlans Awyr, wedi iddyn nhw ddioddef anafiadau difrifol. 

Cafodd gyrrwr y fan a pherson oedd yn teithio yn y fan eu cludo i Ysbyty Maelor Wrecsam. 

Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un oedd yn teithio ar hyd yr A525 cyn y gwrthdrawiad – yn enwedig unrhyw un all fod â delweddau dashcam – i gysylltu â’r llu gan ddyfynnu’r cyfeirnod C080440.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.