Leigh Halfpenny yn ymuno â thîm hyfforddi Cymru ar gyfer y daith i Japan
Fe fydd cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru Leigh Halfpenny yn ymuno â thîm hyfforddi Cymru ar gyfer y daith i Japan ym mis Gorffennaf.
Enillodd Halfpenny 101 o gapiau dros Gymru yn ystod ei yrfa, gan ennill dwy Gamp Lawn, a sgorio cyfanswm o 801 o bwyntiau dros ei wlad.
Bydd yn gyfrifol am hyfforddi sgiliau'r chwaraewyr, ac mae eisoes wedi gwneud hyn gyda thîm o dan 20 Cymru yn 2022.
Bydd yn cydweithio gyda'r Prif Hyfforddwr Matt Sherratt, Gethin Jenkins sy’n gyfrifol am yr amddiffyn, yr ymgynghorydd sgrymio Adam Jones, hyfforddwr y blaenwyr Danny Wilson a’i gynorthwydd T. Rhys Thomas.
Dywedodd Leigh Halfpenny: "Rwy’n teimlo’n freintiedig fy mod wedi cael y cyfle hwn i weithio gyda’r garfan genedlaethol.
"Mae Neil Jenkins wedi bod yn ddylanwad mawr arnaf trwy gydol fy ngyrfa – ac un o’r goreuon yn ei faes.
"Mae hi wedi bod yn fraint dysgu gan rywun o’i safon ef ac ‘rwy’n bwriadu ceisio rhannu’r hyn yr wyf wedi ei ddysgu ganddo gyda’r garfan cyn – ac yn ystod y daith."
Ychwanegodd Prif Hyfforddwr Cymru Matt Sherratt: "Mae’n wych bod Leigh am ymuno gyda ni ac ‘rwy’n hapus iawn gyda fy nhîm hyfforddi ar gyfer yr haf. Bydd gwybodaeth, profiad a doniau Leigh yn werthfawr iawn i’n holwyr ifanc ni.
“Mae gennym dair wythnos cyn ein bod yn cyrraedd Japan – ac mae pethau’n gyffrous o fewn y garfan wrth i ni wneud y mwyaf o’r amser paratoi sydd gennym gyda’n gilydd.”
Bydd Cymru yn wynebu Siapan mewn dwy gêm brawf.