Dyn 27 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy
Mae dyn 27 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr A40 ym mhentref Rhaglan yn Sir Fynwy ddydd Sadwrn.
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod yn apelio am wybodaeth wedi'r gwrthdrawiad ar yr A40 am tua 10:55.
Ychwanegodd y llu fod y gwrthdrawiad yn ymwneud ag un beic modur du a ddigwyddodd ar y ffordd ymadael tua'r de a oedd yn teithio tuag at yr A449.
Bu farw'r gyrrwr, dyn 27 oed o ardal Caint, yn y fan a'r lle.
Mae ei deulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2500171600.