Menyw o Abertawe yn cael ei harestio gan awdurdodau Israel
Mae ymgyrchydd o Abertawe eisiau “ymladd dros ei hawl" i beidio â chael ei halltudio ar ôl cael ei harestio ar y Llain Orllewinol, meddai cyfaill iddi o’r ddinas.
Mae Deirdre Murphy ym maes awyr Ben Gurion yn Israel ac yn gobeithio aros yno er gwaethaf gorchymyn i’w halltudio oddi yno.
Mae’r ddynes 71 oed yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon ond wedi byw yn Abertawe ers 30 o flynyddoedd ac yn rhan o’r grŵp Swansea Palestine Community Link.
Fe gafodd ei harestio ar yr un pryd â Susanne Björk, sy’n 48 oed, o Sweden, gyda’r ddau wedi bod yn ymgyrchu ar ran y Grŵp Cydsafiad Rhyngwladol (ISM).
Fe gafodd Susanne Björk ei halltudio ddydd Llun.
Dywedodd aelod arall o’r grŵp Swansea Palestine Community Link, Jean Foster, bod Murphy wedi teithio i roi cymorth i’r Palesteiniaid.
“Fe aethon nhw â hi i’r cwrt yn y maes awyr yn Tel Aviv lle cafodd orchymyn i’w halltudio, ond fe wnaeth hi wrthod gadael gan nad oedd hi ddim yn gwneud dim byd o’i le,” meddai Jean Foster.
“Es i i’r West Bank gyda hi ‘nôl yn 2013, ond roedd hi wedi bod yn mynd yna am ryw bum mlynedd cyn hynny hefyd.
“Mae hi nawr yn aros i weld barnwr ond dydyn ni ddim yn siŵr pryd fydd hynny, ond mae ei chyfreithiwr yn dweud ei bod hi’n cadw’n iawn.
“Dydy hi ddim eisiau cael ei halltudio, mae hi eisiau ymladd dros ei hawl i aros.”
Mewn datganiad, dywedodd ei mab, Dale Ryan: “Mae fy mam yn cael ei chadw gan awdurdodau Israel. Yr unig drosedd, o’m llygaid i, oedd gweld troseddau yn erbyn pobl Palesteinaidd.
“Mae ganddi synnwyr cryf o gyfiawnder a doedd hi ddim yn gallu eistedd gartref tra roedd hi’n gwybod bod ei ffrindiau yn Masafer Yatta, a Phalesteina gyfan yn dioddef.
“Dwi’n falch iawn o fy mam am sefyll dros hawliau dynol sylfaenol ei ffrindiau a cheisio codi ymwybyddiaeth o’r anghyfiawnderau yn Palesteina.
“Wrth gwrs, dwi eisiau iddi ddod adref yn ddiogel i fod gyda’i theulu ond dwi’n gwybod bod darn o’i chalon ym Mhalesteina a bod angen iddi fod yno, yn gwneud beth mae hi’n gallu.”
Mae Adran Materion Tramor a Masnach Gweriniaeth Iwerddon wedi dweud eu bod yn ymwybodol o'r achos ac yn darparu cymorth.