Beirniadu dynodi rheilffordd newydd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt yn un ‘Cymru a Lloegr’
Mae dwy blaid wleidyddol wedi beirniadu penderfyniad i ddynodi rheilffordd newydd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt yn un ar gyfer ‘Cymru a Lloegr’.
Mae’r penderfyniad, meddai'r Democratiaid Rhyddfrydol, yn golygu na fydd Cymru yn derbyn cyfran o’r arian drwy’r Fformiwla Barnett yn yr un modd a’r Alban a Gogledd Iwerddon.
Bydd y rheilffordd newydd, East West Rail, rhwng Rhydychen a Chaergrawnt yn costio £6.6 biliwn.
Pe bai wedi ei ddynodi yn brosiect ar gyfer Lloegr yn unig fe fyddai disgwyl i Lywodraeth Cymru dderbyn hyd at £360m i’w wario yng Nghymru.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru wedi beirniadu'r penderfyniad.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates fod "Llywodraeth bresennol y DU wedi cydnabod ei bod yn fargen wael i Gymru."
Gofynnodd AS Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe, David Chadwick, wrth yr Adran Drafnidiaeth “a fydd East West Rail yn cael ei dynodi'n brosiect Cymru a Lloegr?”
Wrth ymateb dywedodd Is-ysgrifennydd Seneddol y Wladwriaeth dros Drafnidiaeth, Simon Lightwood, ei bod yn rhan o’r biblinell gwelliannau rhwydwaith rheilffyrdd (RNEP) “sy'n cwmpasu cyllid ar gyfer prosiectau yng Nghymru a Lloegr”.
“Gellir dosbarthu portffolio RNEP i unrhyw gynllun ledled Cymru a Lloegr,” meddai.
Dyma’r eildro i ffrae wleidyddol godi am ddynodi rheilffordd newydd a fyddai yn bodoli yn Lloegr yn unig yn un ‘Cymru a Lloegr’.
Mae rheilffordd HS2 wedi bod yn destun dadlau gwleidyddol ers sawl blwyddyn wedi iddo gael ei ddynodi yn brosiect ar gyfer y ddwy wlad, er nad yw'n dod i Gymru.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, ym mis Tachwedd y llynedd fod yna “annhegwch sylfaenol” ynglŷn â’r penderfyniad am HS2.
'Sarhad'
Dywedodd David Chadwick AS , sy’n Llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn San Steffan, ddydd Llun bod y penderfyniad am East West Rail yn “warthus”.
“Dyma HS2 unwaith eto,” meddai.
“Mae Cymru ar ei cholled o gannoedd o filiynau mewn cyllid a allai drawsnewid ein rhwydwaith rheilffyrdd ein hunain.
“Mae Rheilffordd Dwyrain-Gorllewin rhwng Rhydychen a Chaergrawnt. Ni fydd unrhyw gentimetr o drac yn cael ei osod yng Nghymru.
“Ac eto mae Llafur yn disgwyl i bobl ledled Cymru gredu’r syniad hurt y bydd y prosiect hwn o fudd iddyn nhw.
“Mae’n warth, ac mae’n dangos nad oes unrhyw newid ystyrlon wedi bod ers i Gymru gael ei thrin ers i Lafur ddod i rym o’i gymharu â’r Ceidwadwyr.”
Dywedodd Plaid Cymru fod y penderfyniad yn “sarhad arall i Gymru o dan Lafur”.
"Mae Starmer, yn ôl pob sôn, wedi cael cymiant o lond bol o Brif Weinidog Cymru yn gofyn am 'arian HS2' nes ei fod wedi gwneud yr un peth eto… gan fynd â miliynau yn rhagor o gyllid rheilffyrdd o Gymru," meddai arweinydd y blaid, Rhun ap Iorwerth.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Nid yw hyn yn newydd. Mae'r system a ddefnyddir i dalu am welliannau rheilffyrdd yn rhoi Cymru a'r Gororau o fewn rhwydwaith ehangach sydd wedi bod yn anfantais i ni yn hanesyddol. Mae llywodraethau blaenorol wedi methu â newid hynny, ond mae Llywodraeth bresennol y DU wedi cydnabod ei bod yn fargen wael i Gymru.
"Gallai cyn-weinidogion fod wedi rhoi setliad cyllido teg, ond methwyd gwneud hynny. Yn hytrach, fe wnaethant gefnogi HS2 heb gyllid teg i Gymru.
"Mewn cyferbyniad llwyr, mae Llywodraeth bresennol y DU wedi cyfaddef bod rhwydwaith Cymru a'r Gororau wedi cael ei danariannu yn y gorffennol. Mae gennym brosiect uchelgeisiol o welliannau yr ydym wedi cytuno arnynt a fydd yn gwneud yn iawn am danfuddsoddiad gan lywodraethau blaenorol."