Newyddion S4C

Trent Alexander-Arnold yn ymuno â Real Madrid

Trent Alexander-Arnold

Bydd Trent Alexander-Arnold yn ymuno â chlwb Real Madrid ddydd Sul 1 Mehefin ar ôl i Lerpwl dderbyn ffi i ryddhau'r amddiffynnwr yn gynnar o'i gytundeb.

Yn ôl adroddiadau, mae Lerpwl wedi nodi mai'r ffi yw 10 miliwn ewro (£8.4m), y mae Real wedi'i wneud fel un taliad ymlaen llaw.

Fodd bynnag, mae adroddiadau yn Sbaen wedi awgrymu eu bod wedi talu swm is.

Mae taliad wedi ei gytuno i ganiatáu i amddiffynnwr Lloegr i ymuno â Real mewn pryd i chwarae yng Nghwpan y Byd Clybiau.

Byddai’r chwaraewr 26 oed wedi gallu gadael Lerpwl am ddim pan roedd ei gytundeb yn dod i ben ar 30 Mehefin.

Mae Alexander-Arnold, a oedd eisoes wedi cadarnhau ei fwriad i adael Lerpwl yr haf hwn, wedi arwyddo cytundeb chwe blynedd gyda'r cewri La Liga.

Fe wnaeth Fifa gymeradwyo ffenestr ychwanegol ar gyfer yr haf hwn, o 1-10 Mehefin, gan ganiatáu i dimau gofrestru chwaraewyr newydd ar gyfer Cwpan y Byd Clybiau sy'n dechrau ar 14 Mehefin yn yr Unol Daleithiau.

Mae gêm grŵp agoriadol Real yn erbyn tîm Saudi Al-Hilal ar 18 Mehefin yn Miami.

Llun: CPD Lerpwl

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.