Y gwanwyn mwyaf heulog ar gofnod yng Nghymru eleni
Mae Cymru wedi profi'r gwanwyn mwyaf heulog ar gofnod, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Cafodd tua 648 awr o heulwen ei gofnodi yn y wlad rhwng Mawrth 1 a Mai 28 - sy'n uwch na chyfartaledd y DU.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae’r ffigwr yn curo’r uchafbwynt blaenorol o 647 awr yn 2020.
Mae’r DU gyfan wedi cofnodi 636.8 awr o heulwen yn y gwanwyn eleni, gan guro’r 626 awr a osodwyd yn 2020.
Mae data heulwen y Swyddfa Dywydd yn mynd yn ôl i 1910.
Mae disgwyl i ffigurau glawio gael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Maen nhw'n debygol o ddangos bod y DU wedi profi un o'i gwanwynoedd sychaf, er gwaethaf y glaw trwm mewn rhai ardaloedd yn ystod yr wythnos.
Mae Cymru wedi wynebu nifer enfawr o danau gwyllt eleni, gyda’r mis Mawrth sychaf ers 1944, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Tanau gwyllt
Erbyn canol mis Ebrill, roedd tri gwasanaeth tân yng Nghymru wedi ymateb i fwy na 1,300 o danau glaswellt, gydag elusennau’n rhybuddio y gallai rhai ardaloedd gymryd degawdau i wella o’r dinistr.
Yr wythnos diwethaf, symudodd CNC y wlad i statws “tywydd sych hirfaith”, gyda llawer o afonydd yn “isel neu’n eithriadol o isel”.
Dywedodd Rhian Thomas, rheolwr dŵr cynaliadwy a natur CNC: “Mae dechrau mor sych i’r flwyddyn yn achosi cryn bryder i iechyd ein hecosystemau a’n cynefinoedd, yn ogystal â rheoli tir a’r sector amaethyddol.
“O’r herwydd, rydym wedi gwneud y penderfyniad i symud Cymru gyfan i statws tywydd sych hir.
“I ni, mae hyn yn golygu cynyddu ein camau gweithredu a monitro ledled Cymru i helpu i liniaru’r effeithiau ar yr amgylchedd, tir, defnyddwyr dŵr a phobl, ac ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol.
“Bydd ein timau sychder yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd i adolygu’r statws.”