Cynnal cyfarfod cyhoeddus ym Mhowys wedi pryder am ddyfodol ffermydd rhent
Fe gafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal ym Mhowys nos Fawrth yn sgil pryder am ddyfodol ffermydd rhent yn y sir.
Dywedodd yr Aelod o'r Senedd Russell George fod dros 150 o bobl yn bresennol ym mhentref Sar ger Y Drenewydd "mewn ymateb i bryder cynyddol am Gyngor Sir Powys yn gwerthu rhannau o'i ystâd fferm rhent."
Ychwanegodd Mr George fod y cyfarfod wedi cydnabod y "cyfraniad gwerthfawr" sydd gan ffermydd sy'n eiddo i'r cyngor wrth gefnogi cynhyrchu bwyd a sicrhau bod y genhedlaeth iau yn cael mynediad at y byd ffermio.
Dywedodd hefyd fod yna gytuno yn y cyfarfod y byddai gwerthu ffermydd o dan eiddo'r cyngor yn peryglu lleihau diogelwch bwyd Powys a Chymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys fod y "cyngor yn rhesymoli ei ystad eiddo yn strategol".
Fe orffennodd y cyfarfod gyda chefnogaeth ar gynnig yn galw ar Gyngor Sir Powys ar waharddiad dros dro ar werthiannau unrhyw fferm o dan eiddo'r cyngor.
Dywedodd Cynghorydd Plaid Cymru Elwyn Vaughan fod y "diffyg strategaeth a pholisi clir yn broblem sylfaenol.
"Fe gafodd cynnig ei gefnogi yn galw ar Gyngor Powys i weithredu fframwaith polisi newydd a rhoi'r gorau i werthu ffermydd yn y cyfamser. Maen nhw'n rhan bwysig o'n cymunedau gwledig."
Ychwanegodd Cynghorydd Reform UK Karl Lewis ei fod yn "galonogol gweld cynrychiolaeth trawsbleidiol, gyda gwleidyddion o bobl plaid yn bresennol."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys: "Mae'r cyngor yn rhesymoli ei ystad eiddo yn strategol gan gynnwys ei bortffolio ffermydd masnachol a sirol yn unol â'i Bolisi Asedau Corfforaethol, y cytunwyd arni gan y Cabinet. Mae hyn er mwyn sicrhau bod ein hasedau'n cael eu rheoli'n effeithlon, yn gynaliadwy ac yn cyd-fynd ag anghenion ein cymunedau sy'n newid o hyd.
"Drwy adolygu a symleiddio ein daliadau eiddo, ein nod yw lleihau cyfrifoldebau cynnal a chadw, gwella effeithlonrwydd gweithredol, a rhyddhau cyfalaf o asedau sydd heb eu defnyddio'n llawn neu'n ddiagen.
Llun: Russell George / Facebook