
Apêl ddirdynnol gwraig wedi diflaniad ei gŵr bedwar mis yn ôl
Mae teulu dyn 52 oed o Gaerdydd a ddiflannodd bedwar mis yn ôl wedi bod yn sôn am eu hunllef, am nad oes ganddyn nhw unrhyw atebion.
Does neb wedi gweld Mark Kinson ers iddo adael ei gartref yn ardal Llanrhymni, ar 31 Ionawr.
Cafodd ei weld ar gamerau cylch cyfyng-CCTV yn cerdded ar Captain’s Walk tua 10pm y noson honno, tua chyfeiriad Braunton Crescent.
Yn ôl gwraig Mark, Angela Kinson, mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn hunllefus.

"‘Dy ni’n colli e… ‘dy ni ddim yn gwybod a ydy e’n ddiogel, neu lle mae e. Does dim canlyniad," meddai.
"Mae pobl wedi arfer caru rhywun, ac mae pobl wedi arfer galaru am rywun. Ond dydyn ni ddim wedi arfer delio â hyn.”
Er gwaethaf sawl apêl, gan gynnwys ar gyfryngau cymdeithasol, does yr un person wedi cadarnhau eu bod wedi gweld Mark Kinson ers y noson honno ym mis Ionawr.
Mae ei deulu'n dweud eu bod yn teimlo bod eu byd ar ben, ac maen nhw nawr yn galw ar yr heddlu i geiso dod o hyd i atebion ar frys.

"Mae'r heddlu'n gwybod cymaint â ni... ac nid oes mwy o gliwiau, nac unrhyw wybodaeth bellach," meddai Angela Kinson.
“Ar y dechrau, roedden ni’n gweithio gyda'r tîm ymateb ym mhythefnos cyntaf yr ymchwil. Roedden nhw’n anhygoel…
“A phan ddaeth yr ugeinfed diwrnod, fe gymrodd CID drosodd, a dyna phryd y stopiodd y cyfathrebu.”
Cyhoeddodd Heddlu De Cymru eu bod yn dal i apelio am wybodaeth am Mr Kinson.
“Mae ymchwiliadau wedi dechrau, ac maen nhw’n parhau, er mwyn ceisio dod o hyd i Mark, ond does dim tystiolaeth gadarn ers y diwrnod hwnnw.
“Mae swyddogion wedi archwilio ffilmiau CCTV ac yn archwilio tir agored, coedwigoedd a glannau afonydd,” meddai eu datganiad.