Newyddion S4C

Undeb darlithwyr yn ystyried ei streic gyntaf ledled y DU dan lywodraeth Llafur

26/05/2025
streiciau prifysgol/ucu

Mae undeb sy’n cynrychioli staff prifysgolion wedi dweud eu bod yn ystyried eu streic gyntaf ledled y Deyrnas Unedig dan lywodraeth Lafur yn San Steffan.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr UCU, Jo Grady, eu bod nhw’n pryderu am golli swyddi yng Nghaerdydd a phrifysgolion eraill, gyda 10,000 o swyddi yn y fantol.

Pleidleisiodd yr UCU, undeb y colegau a phrifysgolion, o blaid paratoi ar gyfer anghydfod diwydiannol yn eu cyngres flynyddol yn Lerpwl ddydd Sul.

Dyna’r cam cyntaf tuag at drefnu pleidlais o’u holl aelodau ar y pwnc. Mae’r undeb yn cynrychioli 120,000 o staff mewn addysg bellach.

Dywedodd Jo Grady ei fod yn “gywilyddus” bod toriadau prifysgolion mor ddifrifol o dan Lywodraeth Lafur.

“Mae ein haelodau’n ymladd i amddiffyn swyddi ac enw da byd-eang prifysgolion y DU,” meddai.

“Ond rydym yn cael ein rhwystro gan Lywodraeth sydd wedi gwrthod delio â’r problemau ariannol sylfaenol sy’n poeni ein sector a sydd bellach yn ymddangos yn benderfynol o waethygu’r argyfwng gyda thoriadau a chyfyngiadau newydd ar recriwtio.

“Rhaid i’r Prif Weinidog a’r Canghellor roi’r gorau i atal cyllid priodol i’n prifysgolion.

“Mae’r bleidlais hon yn anfon neges glir iddyn nhw: os ydych chi’n gwrthod gwrando ar y rheini sy’n gyfrifol am enw da byd-eang prifysgolion Prydain, yna rhaid i chi fod yn barod i wynebu streic bosib.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod nhw wedi “etifeddu sector sy’n wynebu risg ariannol ddifrifol”.

Maen nhw wedi “gwneud penderfyniadau anodd i drwsio sylfeini addysg uwch,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.