Billy Joel yn gohirio ei gyngherddau yn y DU oherwydd salwch
Mae’r canwr Billy Joel wedi gohirio ei holl gyngherddau yn y DU a’r UDA ar ôl cael diagnosis o salwch ar ei ymennydd.
Mae ef wedi cyhoeddi bod ganddo ‘Normal Pressure Hydrocephalus’, sy’n achosi hylif i gronni yn yr ymennydd ac sydd “wedi cael ei waethygu gan berfformiadau cyngerdd diweddar”.
Mae’r salwch wedi effeithio ar ei “glyw, ei olwg a’i gydbwysedd”, meddai datganiad ar gyfryngau cymdeithasol y canwr.
“O dan gyfarwyddiadau ei feddyg, mae Billy yn cael therapi corfforol penodol ac mae wedi cael ei gynghori i ymatal rhag perfformio yn ystod y cyfnod ymadfer hwn,” meddai'r datganiad.
Mewn neges ar wahân, dywedodd Joel ei fod yn “wirioneddol flin i siomi ein cynulleidfa, a diolch am ddeall”.
Ymhlith ei ddyddiadau nesaf roedd gigs yng Nghaeredin a Lerpwl, yn ogystal â chyngherddau yn Efrog Newydd, New Jersey a Detroit.
Bydd tocynnau ar gyfer yr holl sioeau yn cael eu had-dalu.