O fod yn gaeth i gyffuriau i redeg 100 milltir: Taith dyn o Gwmaman yn ysbrydoli eraill
O fod yn gaeth i gyffuriau i redeg 100 milltir: Taith dyn o Gwmaman yn ysbrydoli eraill
“Roeddwn i’n ‘down and out’ a nawr rwy’n rhedeg rasys 100 milltir.”
Dyma eiriau Gareth Jones o Gwmaman yng Nghwm Cynon, sydd yn disgrifio'r tro ar fyd yn ei fywyd ar ôl iddo gwblhau ras redeg eithafol yn Eryri yn ddiweddar.
Roedd y ras ar draws 100 milltir o lwybrau heriol yn Eryri yn un y llwyddodd i'w chwblhau mewn 41 awr a 14 munud, ac roedd yn gyfuniad o redeg a dringo.
I Gareth, sydd wedi profi cyfnodau anodd yn ei fywyd, roedd yn fwy na ras.
Am gyfnod fe fu'n gaeth i gyffuriau, gan ei arwain i le tywyll yn ei fywyd.
Yn ystod ei arddegau, roedd Gareth yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn ei ystafell wely'n cymryd cyffuriau.
“Roedd fel fy nihangfa fach o realiti”, meddai wrth Newyddion S4C.
Yn dilyn y cyfnod anodd hwnnw, roedd Gareth a'i fryd ar ymuno gyda’r fyddin, ac fe lwyddodd i wneud hynny yn y pen draw.
“Pryd wnes i ymuno’r fyddin, dyna lle dechreuodd pethau i ddod at ei gilydd.”
O 5k i 100milltr
Yn ystod y cyfnod clo, fe brynodd Gareth bâr o esgidiau rhedeg, a dechreuodd redeg 5k gan sylweddoli bod rhedeg yn helpu i glirio ei feddwl.
Fe ddisgynnodd mewn cariad gyda rhedeg ac roedd fel "fflicio switsh”, meddai.
"Nid y rhedeg oedd e, nid y ffitrwydd oedd e, ond y lle roedd o wedi mynd â fi."
Nawr, mae Gareth yn defnyddio ei stori i ysbrydoli eraill.
Gyda dros 100,000 o ddilynwyr ar Instagram, mae ei falchder yn ei daith bersonol yn ysbrydoli eraill i wneud yr un peth, yn enwedig i bob sydd yn gaeth i gyffuriau.
Gyda’r gefnogaeth gywir ac ychydig o fwdfrydedd, mae newid yn bosib, meddai.
Wrth gymryd rhan mewn sialensau heriol fel ras y Snowdonia 100 Mile Ultra, mae Gareth yn defnyddio rhedeg fel modd o wella ei iechyd meddwl a rhannu ei neges gyda miloedd o bobl eraill.
Mae Gareth yn gwirfoddoli gyda sefydliadau fel Recovery Cymru a Chance for Childhood, gan helpu eraill i ddarganfod eu llwybrau i adferiad.
Mae Gareth yn canmol ei gymuned am ei gefnogi i ddod yn rym er daioni, gan droi profiad tywyll i mewn i ffynhonnell o gryfder ac empathi i eraill.
Yn ôl Gareth, heb gymorth ei deulu, ei wraig a’i dair merch, a'r cannoedd o’i ddilynwyr a ffrindiau, ni fyddai wedi cyrraedd y nod.