Bwriad i greu 140 o swyddi yn Sir y Fflint
Mae cwmni rhyngwladol sy'n cynhyrchu deunydd inswleiddio yn bwriadu buddsoddi £170 miliwn mewn canolfan newydd yn Shotton, Sir y Fflint.
Bydd y buddsoddiad yn golygu 140 o swyddi newydd.
Knauf Insulation yw’r cwmni deunyddiau inswleiddio mwyaf yn y Deyrnas Unedig.
Ar hyn o bryd mae’r cwmni'n n cyflogi tua 600 o weithwyr yn eu canolfannau yng Nghwmbrân a Queensferry yng Nghymru a St Helens yn Lloegr.
Bydd y datblygiad yn cynhyrchu dros 100,000 o dunelli o ddeunydd inswleiddio wedi'i wneud o wlân mwynol bob blwyddyn.
Yn ôl Neil Hargreaves, Rheolwr Gyfarwyddwr Knauf Insulation Gogledd Ewrop, mae gan y cwmni hanes balch yng Nghymru: "Bydd y ffatri newydd yn cynhyrchu deunydd inswleiddio wedi’i wneud o wlân mwynol sy’n ailgylchadwy, yn garbon isel ac yn anllosgadwy i gefnogi'r angen am adeiladau mwy diogel, mwy ynni effeithlon a chynaliadwy," meddai.
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi croesawu’r buddsoddiad
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mae’r buddsoddiad hwn o £170 miliwn gan Knauf Insulation yn newyddion gwych i Ogledd Cymru ac i genhadaeth Llywodraeth y DU i sbarduno twf economaidd.
“Dyma bleidlais o hyder yn economi Cymru ac yng nghynllun ein llywodraeth i wneud Prydain yn gyrchfan y bydd pobl yn dewis troi ati i fuddsoddi mewn diwydiant.”
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae hyn yn newyddion gwych i Ogledd Cymru. Bydd y cynlluniau’n fuddsoddiad mawr yn yr ardal ac maent yn brawf o’r sgiliau a’r cyfleusterau sydd gennym ni yma.
“Dim ond dechrau’r daith yw’r cyhoeddiad cadarnhaol hwn, a byddwn yn parhau i ddarparu cefnogaeth wrth i’r gwaith o gyflawni’r prosiectau fynd rhagddo.”