Dyn yn y llys mewn cysylltiad â chwalu achos troseddol cyntaf ymosodiadau Ysgol Dyffryn Aman
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys mewn cysylltiad â chwalu achos troseddol cyntaf merch oedd wedi ei chyhuddo o ymosodiadau yn Ysgol Dyffryn Aman.
Daeth yr achos troseddol cyntaf i ben yn ddisymwth ym mis Hydref y llynedd, gyda’r barnwr yn dweud bod “afreoleidd-dra mawr wedi bod yn y rheithgor”.
Fe wnaeth Christopher Elias, 45 oed, o Waunceirch, Castell-nedd Port Talbot, ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Mercher wedi'i gyhuddo o'r drosedd o wrthod ateb cwestiwn yn ymwneud â'r cymhwyster i wasanaethu ar reithgor.
Cafodd Mr Elias ei gyhuddo mewn perthynas â diwedd achos llys cyntaf merch 14 oed oedd wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio dau athro a chyd-ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Aman ym mis Ebrill 2024.
Gohiriodd y Barnwr Rhanbarthol Christopher James yr achos tan ddydd Llun 2 Mehefin, ar gyfer cael ei gynnal yn Llys Ynadon Caerdydd.
Dywedodd y Barnwr James fod yr oedi yn “edifar” iddo ond yn angenrheidiol a rhoddodd fechnïaeth ddiamod i Christopher Elias.
Cafodd merch 14 oed, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, ei dedfrydu i 15 mlynedd o garchar fis diwethaf am geisio llofruddio Fiona Elias, Liz Hopkin a’r disgybl yn yr ysgol yn dilyn ail achos troseddol.