Newyddion S4C

Cefnogaeth i Kneecap gan dros 100 o gerddorion Cymraeg

Aelodau o'r band Kneecap

Mae dros 100 o gerddorion Cymraeg wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd yn cefnogi'r grwp o Belfast, Kneecap, wedi beirniadaeth yn ddiweddar am eu sylwadau gwleidyddol.

Fis diwethaf, cafodd datganiad tebyg ei gyhoeddi gan gerddorion sy'n canu'n bennaf yn Saesneg, ar ôl i ffrae gorddi wedi i fideos ddod i'r golwg lle mae'n ymddangos bod y band yn annog torf i ladd aelod seneddol ac yn lleisio cefnogaeth i Hamas a Hezbollah.

Mae heddlu gwrthderfysgaeth yn cynnal ymchwiliad.  

Mae’r band wedi ymddiheuro i deuluoedd ASau sydd wedi eu llofruddio ond maen nhw'n honni bod fideos o’r digwyddiad wedi cael eu "hecsbloetio".

Maen nhw hefyd wedi dweud nad ydyn nhw "erioed wedi cefnogi" Hamas na Hezbollah.

Ddydd Mawrth, mae Cymdeithas yr Iaith, fel hyrwyddwyr cerddoriaeth Gymraeg, wedi cyhoeddi eu bod yn cefnogi datganiad gan dros 100 o gerddorion Cymraeg sydd wedi mynegi eu cefnogaeth i'r band Gwyddelig. 

"Daeth Kneecap dan y lach yn ddiweddar am feirniadu Israel yn hallt ac am ddatgan eu cefnogaeth i'r Palestiniad. Mae'r cerddorion Cymraeg hefyd yn mynegi hefyd eu cefnogaeth gref i'r Palestiniaid yn yr argyfwng enbyd a'r gorthrwm llethol maent yn wynebu, ac yn galw am gyfiawnder a heddwch i'r Palestiniaid," meddai'r datganiad. 

"Traddodiad anrhydeddus"

Ymhlith y cerddorion sydd wedi datgan eu cefnogaeth i'r datganiad mae aelodau Cowbois Rhos Botwnnog, Gruff Rhys, Gwenno, Pys Melyn, Mali Hâf, Bryn Fôn, Mellt a Mark Roberts (MR).  

Dywedodd un o hyrwyddwyr y datganiad, y canwr Steve Eaves: "Mae'n achosi pryder bod cymaint o sylw wedi ei roi i'r band yn y mater yma, a chyn lleied o sylw i ymosodiadau di-drugaredd Israel ar Gasa, lle mae bwyd, dŵr, trydan, cysgod a thriniaethau meddygol yn cael eu hatal rhag cyrraedd y Palestiniaid. 

"Mae nifer o fandiau o Loegr wedi datgan eu cefnogaeth i Kneecap, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cyhoeddi neges debyg.

"Mae'na draddodiad anrhydeddus o gerddorion Cymraeg yn cefnogi cyfiawnder a heddwch a gwrthwynebu hiliaeth ac apartheid. Teimlwn fod angen i bawb ddefnyddio pob cyfle i alw ar lywodraethau ac arweinwyr i hwyluso diwedd ar y rhyfel, ac na ddylid ceisio tawelu lleisiau sy'n mynegi hynny ac yn gwrthwynebu gorthrwm."


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.