Achub dau berson oddi ar ynys ar ôl bwyta planhigyn gwenwynig
Mae dau berson wedi cael eu hachub oddi ar ynys ger Bro Morgannwg ar ôl iddyn nhw fwyta "planhigyn gwenwynig."
Cafodd y ddau chwilotwr (forager) profiadol eu hachub oddi ar Ynys Sili gan griwiau Bad Achub Dociau'r Barri.
Fe wnaeth y criw ddarganfod y ddau berson yn "dangos arwyddion o orbryder" ar yr ynys.
Y gred yw bod y ddau wedi llyncu cegid (hemlock), sef planhigyn gwenwynig sydd â chlwstwr o flodau gwyn arno.
Mae bwyta'r planhigyn yn gallu effeithio ar system nerfol y corff ac mewn rhai achosion, yn medru arwain at farwolaeth.
Cafodd y ddau berson eu darganfod ar ochr ddwyreiniol yr ynys ar 3 Mai cyn cael eu cludo yn ôl i'r Barri er mwyn cael triniaeth.
Mae'r ddau bellach wedi gwella.
"Rydym wedi bod mewn cysylltiad â nhw ac yn falch o glywed bod y ddau wedi gwella'n llwyr," meddai Bill Kitchen o Fad Achub y Barri.
"Roedd y ddau wedi gwneud y penderfyniad cywir yn chwilio am gymorth - mewn sefyllfaoedd fel hyn mae'n hollbwysig eu bod yn cael triniaeth ar unwaith.
"Rydym yn lwcus bod y canlyniad yn bositif."