Pab newydd: Mwg gwyn yn codi o simnai Capel Sistina
Mae mwg gwyn wedi codi o simnai Capel Sistina yn ninas y Fatican gan gyhoeddi bod y Cardinaliaid yno wedi dewis Pab newydd.
Mae disgwyl y bydd y Pab newydd yn cael ei gyhoeddi o falconi Basilica San Pedr gerllaw lle mae degau o filoedd wedi ymgasglu.
Fe gafodd ei ethol ar y bedwaredd bleidlais.
Fe ddechreuodd 133 o Gardinaliaid y broses o bleidleisio i ddewis y Pab newydd brynhawn ddydd Mercher.
Ar ôl bob pleidlais roedden nhw wedi llosgi eu papurau pleidleisio gyda mwg du yn dangos nad oedd Pab newydd wedi ei ethol a bellach mwg gwyn yn dynodi fod un newydd wedi ei ddewis.
Daw’r bleidlais wedi marwolaeth y Pab Ffransis yn 88 oed yn ei gartref, Casa Santa Marta, ar fore Llun y Pasg.
Nes bod ei enw yn cael ei gyhoeddi o’r balconi ni fydd unrhyw awgrym o bwy fydd y Pab newydd.
Mae'r Conclaf ('gyda goriad') yn cyfeirio at gyfarfod y tu ôl i ddrysau caeedig sy’n gwahardd y Cardinaliaid rhag cyfathrebu â’r byd y tu hwnt i waliau dinas y Fatican.