Mark Williams yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd
Mark Williams yw'r chwaraewr hynaf erioed i gyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd wedi iddo drechu rhif un y byd Judd Trump o 17-14 ffram nos Sadwrn.
Dathlodd y Cymro 50 oed o bentref Cwm ger Glyn Ebwy ei ben-blwydd yn 50 oed fis Mawrth.
Cymro arall, y diweddar Ray Reardon oedd yn dal y record cyn nos Sadwrn. Yn enillydd y bencampwriaeth chwe gwaith, roedd e'n 49 oed pan ymddangosodd yn y rownd derfynol yn 1982.
Yn bencampwr deirgwaith, roedd Mark Williams ar ei hôl hi 7-3 ar ddechrau'r ornest yn erbyn Judd Trump o Loegr, ond llwyddodd y Cymro i ennill tir ac roedd hi'n 8-8 erbyn diwedd y chwarae ddydd Gwener.
Ar ddechrau'r sesiwn olaf nos Sadwrn, roedd Williams ar y blaen o 13-11. Enillodd ddwy ffram gynta'r noson i'w gwneud hi'n 15-11 cyn i Trump daro nôl.
Gyda'r sgôr yn 16-14, methodd Trump gyda phelen ddu i'r gornel dde, a rhoddodd hynny'r cyfle i Mark Williams ennill y ffram a'r rownd gyn-derfynol.
"Methu coelio"
Wrth gael ei gyfweld gan y BBC wedi'r fuddugoliaeth, dywedodd Mark Williams ei fod fymryn yn nerfus tua diwedd y gêm.
"Fe wnes i bron â methu'r ddu yn y ffram olaf - ro'n i'n teimlo 'chydig o densiwn ar y fraich chwith," meddai.
"Dydw i ddim yn arfer teimlo'n nerfus ar unrhyw adeg, ond mi ro'n ni yn y ffram honno.
"'Dw i methu coelio mod i mewn ffeinal arall."
Cyfaddefodd hefyd fod ei olwg yn peri problemau iddo, a'i fod wedi arbrofi gyda mathau gwahanol o sbectol a lensys cyffwrdd. Ond penderfynodd fynd amdani heb ddefnyddio sbectol na lensys ar gyfer y bencampwriaeth hon.
Mae Mark Williams yn wynebu Zhao Xintong o Tsieina yn y rownd derfynol a ddechreuodd toc ar ôl 13:00 brynhawn Sul.
Hon yw'r rownd derfynol gyntaf erioed ym Mhencamwpwriaeth Snwcer y Byd gyda'r ddau chwaraewr yn llaw chwith.
Wrth gyfeirio at ei wrthwynebydd 28 oed sydd yn ei herio yn y rownd derfynol, dywedodd y Cymro: "Dydw i ddim yn gwybod be sy' ar ôl yn y tanc. 'Dw i'n cofio chwarae yn ei erbyn e pan roedd e'n 11 neu 12 oed a nath e fy nghuro i, a wedes i bryd hynny wrth bobl, bod e'n mynd i fod yn chwaraewr da.
"Bydde hi'n dda i'r gamp, pe bai chwaraewr o Tsieina yn ennill y bencampwriaeth... ond dim cweit eto!"
Llun: Reuters