Russell Brand yn y llys ar gyhuddiad o droseddau rhyw honedig
Mae’r actor a’r digrifwr Russell Brand wedi ymddangos yn y llys er mwyn wynebu cyhuddiadau o droseddau rhyw honedig, gan gynnwys treisio.
Siaradodd Brand i gadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a’i fod yn deall amodau ei fechnïaeth yn ystod gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Westminster.
Gwrandawodd Brand, 49 oed, oedd yn gwisgo crys a jîns, yn astud ar fanylion y cyhuddiadau wrth iddo eistedd yn y doc.
Cafodd ei gyhuddo drwy’r post fis diwethaf o un cyhuddiad yr un o dreisio, ymosod yn anweddus a threisio geneuol, yn ogystal â dau gyhuddiad o ymosodiad rhywiol, yn ymwneud â phedair menyw ar wahân.
Mae hefyd yn wynebu dau gyhuddiad o ymosodiad rhywiol, yn ymwneud â phedair menyw.
Daw’r cyhuddiadau ar ôl i’r heddlu ddechrau ymchwilio ar ôl adroddiadau am dreisio, ymosodiadau rhywiol a cham-drin emosiynol honedig gan nifer o fenywod.
Roedd yr honiadau yn rhan o ymchwiliad ar y cyd gan The Sunday Times, The Times a Channel 4 Dispatches ym mis Medi 2023.
Mewn fideo diweddar ar ei gyfrif X, dywedodd Brand ei fod yn groesawu'r cyfle i brofi ei fod yn ddieuog.
Beth yw'r cyhuddiadau yn ei erbyn?
Mae’r cyhuddiadau yn ymwneud â digwyddiadau honedig rhwng 1999 a 2005.
Mae Brand wedi’i gyhuddo o dreisio dynes yn 1999 yn ardal Bournemouth ac o dreisio geneuol ac ymosodiad rhywiol ar ddynes yn 2004 yn ardal Westminster yn Llundain.
Mae hefyd wedi’i gyhuddo o ymosod yn anweddus ar ddynes yn 2001 ac ymosod yn rhywiol ar ddynes arall rhwng 2004 a 2005.
Honnir bod y ddwy drosedd wedi digwydd yn Westminster, Llundain.