Barddoniaeth mewn llechi ar bromenâd Aberystwyth
Mae’r gwaith o adnewyddu Promenâd Aberystwyth wedi cyrraedd carreg filltir farddonol wedi i ‘Gwpledi i’r Prom’ gael eu gosod ar lechi ar y Prom.
Comisiynwyd y gerdd yn arbennig ac fe gafodd ei chyfansoddi gan Feirdd y Dref, Dr Eurig Salisbury a Dr Hywel Griffiths fel anrheg i'r dref.
Bwriad y trefnwyr yw dathlu hanes ac ysbryd cymunedol y dref a’i chyswllt agos â’r môr.
Ynghyd â’r gerdd y mae cyfres o lechi gydag ymadroddion y ‘Cardi’ wedi’u cerfio arnynt, a hynny "er mwyn atgyfnerthu hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol yr ardal". Defnyddiwyd yr ymadroddion hyn yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yn 2022.
Mae Maer Aberystwyth, Maldwyn Pryse, wedi croesawu’r gwaith newydd. Dywedodd: “Mae’r gerdd hon yn deyrnged i hanes cyfoethog Aberystwyth a’i phobl ac i gysylltiad parhaol y dref â’r môr.
"Mae gweld y geiriau wedi’u hysgrifennu yn y promenâd ei hun yn atgof pwerus o’r modd y mae diwylliant a chymuned yn llunio ein hamgylchedd.”
Mae gosod y gerdd yn gam sylweddol ymlaen yn y gwaith o adfywio’r promenâd er mwyn creu glan môr croesawgar a gwydn.
Soniodd y beirdd Dr Eurig Salisbury a Dr Hywel Griffiths am yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gerdd: “Mae Aberystwyth yn fan lle mae’r tir, y môr a’r bobol yn cyd-daro i greu deialog parhaus ond cyfnewidiol.
"Roeddem eisiau dal hanfodion y cysylltiad yma ‒ gwytnwch y promenâd, prydferthwch ei leoliad a’r teimlad o berthyn y mae’n ei gynnig i’r rheiny sy’n ymlwybro ar ei hyd, boed am y tro cyntaf neu ar hyd eu hoes.”
Dros yr wythnosau nesaf bydd gwelliannau pellach yn cael eu cwblhau a disgwylir i'r prosiect adfywio cyfan ddod i ben erbyn gaeaf 2025.
Mae adfywio Promenâd Aberystwyth yn rhan o raglen fuddsoddi ehangach sy'n ceisio gwella ardal ddeheuol y prom yn Aberystwyth.