Wynne Evans: 'Dydw i ddim wedi gwneud dim byd o'i le'
Mae'r canwr a'r cyflwynydd Wynne Evans wedi cyhoeddi neges ddydd Iau yn dweud nad yw wedi "gwneud dim o'i le".
Dyma'r tro cyntaf i'r cyflwynydd o Gaerfyrddin wneud sylw ers mis Ionawr, pan gyhoeddodd y bydd yn cymryd seibiant o'i raglen ar Radio Wales a thaith fyw Strictly Come Dancing yn sgil honiadau yn ei erbyn.
Fe wnaeth y canwr opera ymddiheuro ar ôl gwneud sylw "amhriodol" wrth lansio taith fyw Strictly Come Dancing.
Roedd Mr Evans wedi bod ar daith gyda’r sioe fyw ers cystadlu ar y rhaglen ar BBC One gyda'r ddawnswraig Katya Jones.
Mewn fideo yn ystod lansiad y daith ar 16 Ionawr, roedd modd clywed Mr Evans yn gwneud sylw "amhriodol", yn ôl adroddiad yn y Mail on Sunday.
Mewn datganiad ar y pryd, dywedodd Mr Evans: "Roedd fy iaith yn amhriodol ac yn annerbyniol ac rydw i’n ymddiheuro’n ddiffuant."
Ond mewn datganiad ar Facebook ddydd Iau, dywedodd Mr Evans nad yw wedi "gwneud dim o'i le".
"Helo bawb. Fi sy' 'ma. Hyfryd i weld yr haul yn tywynnu!" meddai.
"Diolch i bawb am eich cefnogaeth, dwi'n addo nad ydw i wedi gwneud dim o'i le.
"Fe wnaeth y wasg fanipiwleiddio a newid naratif sgyrsiau preifat yn llwyr.
"Ni allaf ddweud wrthych sut mae'r miloedd o negeseuon wedi fy nghadw i fynd. Cariad i chi xxxx."