Newyddion S4C

Canolfan Gelfyddydau yng Nghymru yn cyrraedd rhestr fer Amgueddfa'r Flwyddyn

Chapter yng Nghaerdydd

Mae Chapter yng Nghaerdydd ymhlith pump o atyniadau ym Mhrydain sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf  2025.

Bydd yr enillydd yn cael gwobr o £120,000.

Nod y wobr yw cydnabod prosiectau ysbrydoledig o gyfnod yr hydref 2023 hyd at aeaf 2024. Mae'r beirniad yn edrych ar yr hyn mae'r sefydliadau wedi cyflawni, effaith y prosiectau a sut maent yn ymwneud gyda'r gymuned.

Ymhlith yr atyniadau eraill mae Beamish,the Living Museum of the North, yn Swydd Durham, Compton Verney yn Swydd Warwick, Galeri Golden Thread yn Belfast ac Amgueddfa Perth yn yr Alban. 

Mewn seremoni yn Lerpwl ar Fehefin 26 bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi. Bydd y pedwar arall sydd wedi dod i'r brig hefyd yn derbyn £15,000 yr un. 

Canolfan Gelfyddydau yw Chapter sydd yn cynnwys galeri, theatrau, sinema, stiwdio i artistiaid, caffi a gardd gymunedol.

Craffu ar fywyd yng ngogledd ddwyrain Lloegr yn ystod y 1820au, 1900,1940au a'r 1950au mae Beamish, the Living Museum of the North. 

Galeri gelf yw Compton Verney a galeri gelf gyfoes yw Galeri Golden Thread. Amgueddfa sydd yn edrych ar hanes yr Alban a'r byd trwy ffocws lleol yw Amgueddfa Perth. 

Dywedodd Cyfarwyddwr Y Gronfa Gelf, Jenny Waldman sydd hefyd yn cadeirio panel y beirniaid bod y rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn "esiamplau ysbrydoledig o amgueddfeydd ar eu gorau- wedi eu gwreiddio yn ddwfn yn eu cymunedau lleol, yn ymateb i'r byd o'u cwmpas ac yn llawn syniadau ac egni.

"Mae pob un yn cynnig profiad unigryw, gan ddangos y creadigrwydd a’r gofal diddiwedd sydd ynghlwm wrth wneud amgueddfeydd yn lleoedd ysbrydoledig a chyffrous i bawb."

Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y bydd pobl yn "cael eu hysbrydoli" i fynd i weld yr amgueddfeydd. 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.