Disgwyl tymheredd 'llawer uwch na'r arfer' yng Nghymru
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud y bydd y tymheredd yng Nghymru yn “llawer uwch na’r arfer” yn nes ymlaen yn yr wythnos.
Mae'r Deyrnas Unedig medden nhw “ar y trywydd iawn i weld cyfnod poethaf y flwyddyn hyd yma,” gyda rhagolygon am dymereddau allai gyrraedd 29C.
Yng Nghymru, mae disgwyl i’r tymheredd godi dros y dyddiau nesaf gan gyrraedd 25C ddydd Mawrth. Y gred yw y bydd hi'n “gynyddol boeth” erbyn dydd Mercher a dydd Iau.
Fe fydd y tymheredd yn “llawer uwch na’r arfer” erbyn canol wythnos cyn gostwng eto ddydd Gwener.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhagweld mai dydd Llun fydd diwrnod poethaf y flwyddyn yn y DU hyd yma wrth i’r tymheredd gyrraedd 24C. Yng Nghymru fe allai'r tymheredd gyrraedd 22C.
Ond mae’n disgwyl i’r tymheredd godi yn uwch eto wedi dydd Llun.
'Tymheredd llawer uwch'
Fe fydd y tymereddau yn “llawer uwch” na'r hyn fyddai rhywun yn disgwyl adeg yma o’r flwyddyn, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Mae’r tymheredd fel arfer tua 12C yn y gogledd a 16C yn y de yn y DU'r adeg yma o fis Ebrill.
Ond dyw’r Swyddfa Dywydd ddim yn rhagweld y bydd yr wythnos yma y poethaf ar gofnod. Y diwrnod poethaf ar gofnod ar gyfer mis Ebrill yw 29.4C.