Ymosodiad Dyffryn Aman: Merch yn euog o geisio llofruddio i gael ei dedfrydu
Mae disgwyl i ferch 14 oed sydd wedi ei chael yn euog o geisio llofruddio dwy athrawes ac un disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman gael ei dedfrydu ddydd Llun.
Cafodd y ferch, nad oes modd ei henwi oherwydd ei hoedran, ei dyfarnu’n euog o dri chyfrif o geisio llofruddio ym mis Chwefror.
Fe blediodd yn euog i dri chyhuddiad o fwriadu anafu a bod mewn meddiant o lafn miniog.
Roedd hi wedi gwadu ceisio llofruddio dwy athrawes, Fiona Elias a Liz Hopkin, a disgybl yn yr ysgol yn Sir Gaerfyrddin ar 24 Ebrill y llynedd.
Cafodd y ddwy athrawes a’r disgybl eu trin yn yr ysbyty ar ôl cael eu trywanu gan y ferch.
Fe wnaeth y ferch, oedd yn 13 oed ar y pryd, ddweud wrth Lys y Goron Abertawe yn ystod yr achos ei bod yn ymddiheuro am yr hyn ddigwyddodd ac nad oedd hi'n cofio llawer o'r digwyddiad.
Dywedodd yn yr achos ei fod yn “anodd cofio” beth ddigwydd a’i bod yn “sori”.
Clywodd y rheithgor gan yr erlyniad ei bod hi wedi dweud wrth ei hathrawes Fiona Elias, “dw i'n mynd i dy ladd” cyn ei thrywanu hi a Liz Hopkin oedd yn ceisio ei rhwystro.
Clywodd y rheithgor hefyd i'r heddlu ganfod darluniau yn ei bag oedd yn cyfeirio at 'Mrs Frogface Elias' ac enw'r disgybl wnaeth hi drywanu, gyda'r geiriau "boddi", "marwolaeth" a "llosgi".