Degau o filoedd yn rhedeg Marathon Llundain
Mae degau o filoedd o bobl yn rhedeg Marathon Llundain ddydd Sul.
Mae disgwyl i fwy na 56,000 o bobl redeg y cwrs 26.2 milltir drwy'r brifddinas.
Tigst Assefa oedd enillydd ras y menywod, gan dorri record byd ar gyfer ras farathon i fenywod yn unig.
Mae Paula Radcliffe wedi rhedeg yn gyflymach ar y cwrs ond gyda dynion yn cyd-redeg gyda hi i roi cymorth.
Sabastian Sawe oedd enillydd ras y dynion, gan redeg y marathon mewn amser o 02:02:27.
Fe all y marathon dorri record am y marathon mwyaf yn y byd.
Marathon Efrog Newydd sy'n dal y record ar hyn o bryd, wedi i 55,646 o bobl orffen y ras yno ym mis Tachwedd y llynedd.
Ymysg y rhedwyr mae David Stancombe a Sergio Aguiar, tadau Elsie Dot Stancombe ac Alice da Silva Aguiar, a gafodd eu llofruddio yn ymosodiad Southport y llynedd.
Maent yn rhedeg er cof am eu merched yn ogystal â Bebe King, a gafodd ei llofruddio hefyd yn yr ymosodiad.
Mae chwech o ddynion wedi rhedeg y marathon bob blwyddyn ers i'r ras gael ei sefydlu ym 1981, sef cyfanswm o 44 ras.
Bydd Chris Finill, Malcolm Speake, Michael Peace, Jeffrey Aston, Bill O’Connor a David Walker yn rhedeg am y 45 tro ddydd Sul.
Mae o gwmpas 103 o redwyr yn gobeithio torri 87 Guinness World Record ddydd Sul.