Cymeradwyo Delyth Evans i fod yn Gadeirydd S4C
Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi cymeradwyo Delyth Evans i fod yn Gadeirydd S4C.
Fe ymddangosodd Ms Evans o flaen Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin yn San Steffan ddydd Mercher.
Cafodd ei holi gan aelodau o'r pwyllgor am ei blaenoriaethau pe bai'n cael ei phenodi, perthnasedd ei phrofiad blaenorol a'i chynlluniau i ymateb i'r heriau sy'n wynebu S4C.
Yn yr adroddiad am benodiad Ms Evans, dywedodd y pwyllgor fod "dull a dealltwriaeth Delyth Evans wedi creu argraff" a'i bod wedi dangos ei bod yn ymgeisydd addas i fod yn Gadeirydd S4C.
Yn enedigol o Gaerdydd, aeth Delyth Evans i Ysgol Gyfun Rhydfelen cyn astudio Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Gyda chefndir mewn newyddiaduraeth, fe dreuliodd gyfnod yn ysgrifennu areithiau gwleidyddol cyn symud i fyd gwleidyddiaeth ei hun yn ddiweddarach.
Roedd hi'n aelod o’r Cynulliad am dair blynedd rhwng 2000 a 2003, gan gynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Gwasanaethodd fel Dirprwy Weinidog dros y Gymraeg, Materion Gwledig a’r Amgylchedd yn ystod y cyfnod hwn.
Bydd hi'n olynu'r cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, Guto Bebb a gafodd ei benodi'n Gadeirydd dros dro ar y sianel fis Mawrth 2024.
Dywedodd Mr Bebb ar y pryd nad oedd eisiau bod yn gadeirydd yn llawn amser pan fyddai ei gyfnod yn dod i ben ym mis Mawrth 2025.
Cafodd Mr Bebb ei benodi i'r rôl wedi i Rhodri Williams gyhoeddi rai misoedd ynghynt nad oedd am gael ei ystyried ar gyfer ail gyfnod yn Gadeirydd S4C.
Cyfnod cythryblus
Daeth ymadawiad Rhodri Williams wedi cyfnod cythryblus i’r sianel, yn dilyn honiadau o fwlio.
Collodd Prif Weithredwr S4C, Sian Doyle ei swydd gyda’r darlledwr wedi i adroddiad gan gwmni cyfreithiol Capital Law gael ei gyhoeddi fis Rhagfyr 2023.
Roedd y ddogfen yn nodi fod tystiolaeth staff yn amlygu ymddygiad honedig y Prif Weithredwr "fel un a gafodd yr effaith fwyaf arwyddocaol negyddol ar yr amgylchedd waith ac awyrgylch o fewn S4C".
Dywedodd Ms Doyle nad oedd hi'n "cydnabod na derbyn" yr honiadau a wnaed yn yr adroddiad, gan alw ar Lywodraeth y DU i ymchwilio i arweinyddiaeth S4C.
Dechreuodd Geraint Evans yn ei swydd fel Prif Weithredwr S4C fis Ionawr eleni, ar ôl ymuno â S4C yn 2019 fel Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes.
Yn ddiweddarach, daeth yn Gyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi'r Sianel.
Wrth iddo ddechrau yn ei swydd fel Prif Weithredwr, dywedodd bod y "seiliau wedi eu rhoi yn eu lle" er mwyn sicrhau na fydd y darlledwr yn mynd drwy gyfnod tebyg eto.