Newyddion S4C

Penodi cyn-Brif Gwnstabl Dyfed-Powys i arwain corff amgylcheddol

Richard Lewis

Mae cyn-Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys wedi ei benodi i arwain un o asiantaethau amaethyddol ac amgylcheddol y DU.

Fe wnaeth Dr Richard Lewis gyhoeddi ei fod yn ymddeol yn gynharach ym mis Ebrill, wedi cyfnod o ychydig dros dair blynedd wrth y llyw.

Mae bellach wedi ei gyhoeddi mai ef fydd prif weithredwr newydd Asiantaeth Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) Llywodraeth y DU.

Fe fydd yn dechrau yn y swydd ar 1 Gorffennaf 2024 gan gymryd lle Dr Jenny Stewart sydd wedi bod yn brif weithredwr dros dro ers 1 Mehefin 2024.

Dywedodd Richard Lewis, Prif Weithredwr newydd APHA: “Mae’n anrhydedd gwirioneddol cael fy mhenodi’n Brif Weithredwr APHA.

“Nawr yn fwy nag erioed, mae angen Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion gref a arweinir gan wyddoniaeth ar y DU.

“O amddiffyn ein ffiniau rhag bygythiadau anifeiliaid a phlanhigion i ddatgloi cyfleoedd ar gyfer masnach a thwf, rwy'n gyffrous i hyrwyddo gwaith hanfodol APHA - ac i arwain ochr yn ochr â'r gwyddonwyr a'r arbenigwyr o'r radd flaenaf sy'n ei gwneud yn bosibl.”

Dadleuol

Yn ystod ei gyfnod yn arwain y llu, mae’r cyn Brif Gwnstabl wedi hawlio’r penawdau fwy nag unwaith am ei farn ddadleuol.

Fe alwodd am ffurfio un llu heddlu i Gymru gyfan, gan ddadlau bod y system gyda phedwar llu ar wahân ar gyfer Gogledd Cymru, De Cymru, Gwent a Dyfed Powys yn creu gormod o fiwrocratiaeth.

Derbyniodd feirniadaeth am ei sylwadau, gan gynnwys gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Heddlu De Cymru ar y pryd, Alun Michael.

Awgrymodd yntau y dylai Dr Lewis gadw at blismona yn hytrach nag ymyrryd â materion gwleidyddol. 

Ym mis Chwefror 2023, bu’n gyfrifol am sbarduno ymateb chwyrn ar wefan gymdeithasol X wedi iddo drydar ei bod hi’n bryd gwahardd y gân Delilah rhag cael ei chanu mewn gemau rygbi rhyngwladol yn Stadiwm Principality, oherwydd ei hanfodion misogynistaidd.

Gwelwyd y neges gan 3.5 miliwn o bobl, gan sbarduno dros 10,000 o ymatebion.

Mae'r Dirprwy Brif Gwnstabl Ifan Charles wedi ei benodi yn Prif Gwnstabl dros dro.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.