Môn: Cyhuddo dyn 29 oed o droseddau trais domestig
Mae dyn 29 oed o Ynys Môn wedi cael ei gyhuddo o droseddau trais domestig.
Cafodd Harri Evans o Landdaniel Fab ei gyhuddo o dagu bwriadol, dau achos o ymosod a bygythiadau i ladd.
Mae hefyd wedi ei gyhuddo o gymryd cerbyd heb ganiatâd a bygwth difrodi’r cerbyd.
Mae'r cyhuddiadau mewn cysylltiad gyda digwyddiadau rhwng 16 a 20 Ebrill.
Ymddangosodd o flaen Llys Ynadon Caernarfon ddydd Mawrth, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa wedi'r ymddangosiad llys.
Bydd yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron Caernarfon ar ddydd Mawrth, 27 Mai.