Caerdydd Canolog: Oedi i rai gwasanaethau i barhau tan yr wythnos nesaf
Mae disgwyl i rai gwasanaethau rheilffordd yn y de barhau i gael eu heffeithio tan yr wythnos nesaf yn sgil gwaith atgyweirio brys ar bont ger gorsaf Caerdydd Canolog.
Cafodd nifer o deithiau eu canslo neu eu gohirio rhwng dydd Sul a dydd Mawrth oherwydd y gwaith ar y bont.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru a Network Rail fod y prif wasanaethau i mewn ac allan o Gaerdydd wedi dychwelyd i'r arferol erbyn nos Fawrth.
Ond fe fydd gwaith ar y bont yn parhau yr wythnos hon, gyda gwasanaethau rhwng Caerdydd a Glynebwy yn parhau i gael eu heffeithio tan 28 Ebrill.
Bydd trenau ond yn rhedeg rhwng Glynebwy a Chasnewydd am weddill yr wythnos, gyda gwasanaethau bws neu deithiau trên wedi eu dargyfeirio rhwng Casnewydd a Chaerdydd.
Mae yna wasanaethau bws hefyd ar gyfer teithiau rhwng Caerffili a Coryton.
Fe wnaeth archwiliad arferol o'r bont groesffordd rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a gorsaf Heol y Frenhines ddatgelu rhai problemau strwythurol.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru mai "diogelwch yw ein blaenoriaeth gyntaf, felly ataliwyd gwasanaethau ar unwaith ac anfonwyd peirianwyr i'r safle.