Oedi pellach yng ngorsaf reilffordd Caerdydd Canolog nes diwedd ddydd Mawrth
Fe fydd oedi pellach wrth i drenau gyrraedd a gadael prif orsaf reilffordd Caerdydd nes diwedd ddydd Mawrth.
Daw hyn yn sgil gwaith atgyweirio brys ar bont ger gorsaf Caerdydd Canolog, gan olygu oedi a rhai teithiau yn cael eu canslo yn gyfan gwbl.
Fe gafodd nifer o wasanaethau eu heffeithio ar ddydd Llun y Pasg, gyda'r oedi yn wreiddiol i fod i orffen erbyn diwedd y dydd ddydd Llun.
Ond dywedodd National Rail fore ddydd Mawrth y bydd yr oedi bellach yn parhau nes diwedd y dydd.
Mae disgwyl i wasanaethau rhwng gorsaf Bristol Temple Meads a Chaerdydd, a rhwng Bristol Parkway ac Abertawe gael eu heffeithio.
Bydd gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru rhwng Caergybi, Crewe, Cheltenham a Chaerdydd Canolog hefyd yn un o'r rhai a fydd yn cael eu heffeithio.
Nid oes unrhyw wasanaeth trên yn rhedeg rhwng Pontypridd a Bae Caerdydd i'r ddau gyfeiriad.
Mae teithwyr yn cael eu hannog i wirio'r manylion diweddaraf cyn teithio.