Undeb Rygbi Cymru yn gobeithio penodi Steve Tandy yn hyfforddwr newydd rygbi Cymru
Mae Undeb Rygbi Cymru yn gobeithio penodi Steve Tandy yn brif hyfforddwr tîm y dynion.
Mae Steve Tandy yn hyfforddwr amddiffyn yr Alban ar hyn o bryd gan olygu ei fod yn annhebygol y byddai ar gael i arwain Cymru ar eu taith i Japan ym mis Gorffennaf.
Y disgwyl ar hyn o bryd yw y byddai hyfforddwr Rygbi Caerdydd, Matt Sherratt, yn arwain Cymru yn ystod y daith honno cyn trosglwyddo’r awenau i’r hyfforddwr newydd.
Fe gafodd Matt Sherratt ei benodi yn brif hyfforddwr dros dro ar Gymru ar ôl ymddiswyddiad Warren Gatland wedi i Gymru golli yn erbyn yr Eidal oddi cartref yn y Chwe Gwlad.
Roedd Steve Tandy yn brif hyfforddwr ar y Gweilch rhwng 2012 a 2018 cyn symud i Awstralia i hyfforddi amddiffyn y Waratahs.
Symudodd i hyfforddi amddiffyn yr Alban yn 2019 ac roedd hefyd yn aelod o dîm Warren Gatland ar daith y Llewod yn 2021 i Dde Affrica.
Mae disgwyl hefyd i Undeb Rygbi Cymru enwi cyfarwyddwr rygbi Cymru yr wythnos hon gyda Dave Reddin yn ffefryn i gymryd y swydd.
Mae dynion Cymru wedi colli 17 gem yn olynol gan gynnwys dwy lwy bren yn y Chwe Gwlad.
Llun gan Ben Evans/Huw Evans Agency.