Newyddion S4C

The Vivienne wedi cuddio eu dibyniaeth ar Ketamine 'i amddiffyn teulu'

the vivienne.jpg

Fe wnaeth y seren drag The Vivienne guddio eu dibyniaeth ar Ketamine er mwyn "amddiffyn eu teulu" yn ôl eu chwaer. 

Bu farw’r seren drag o Fae Colwyn o ataliad ar y galon a gafodd ei achosi ar ôl cymryd y cyffur Ketamine.

Cafodd James Lee Williams, enillydd y gyfres RuPaul’s Drag Race, eu darganfod yn farw yn eu cartref yn Sir Gaer ar ddydd Sul 5 Ionawr.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen BBC Newsnight, dywedodd Chanel Williams fod ei brawd wedi cael "cyfnod hir iawn o fod yn sobor" cyn i bethau newid, gan ddweud mai dim ond ar ôl marwolaeth James y gwnaeth y teulu ddarganfod hyn.

"Cwestiwn mawr i mi ydi, pe bawn i wedi gofyn y cwestiynau neu edrych am yr arwyddion, a fyddai pethau wedi bod yn wahanol?" meddai.

Mae Ms Williams yn gobeithio parhau i ymgyrchu i annog pobl i siarad yn agored am gamddefnyddio sylweddau. 

Ychwanegodd fod y stigma ynghylch dibyniaeth, a gyrfa lwyddiannus ei brawd ar y llwyfan a'r teledu, wedi golygu na wnaeth James ofyn am gymorth proffesiynol. 

"Byddai'n arfer siarad yn agored ar Drag Race am ei frwydr gyda dibyniaeth, a'r ffaith ei fod wedi goresgyn hyn," meddai Ms Williams.

"Dwi'n meddwl gan ei fod wedi dweud hyn ar blatfform mor agored, mae'n anodd iawn i chi ddod yn ôl a dweud eich bod chi'n ei chael hi'n anodd eto."

Mae Ms Williams yn bryderus am y cynnydd yn y nifer o bobl sy'n cymryd Ketamine, ac yn credu fod hyn yn rhannol oherwydd fod y cyffur yn rhad ac yn hawdd i gael mynediad ato.



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.