Ymosodiadau Rwsia yn parhau medd Wcráin wedi 'cadoediad byr'
Yn ôl byddin Wcráin, mae Rwsia wedi ymosod ar sawl rhanbarth dros nos gan ddefnyddio dronau, a hynny oriau wedi i gadoediad byr a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Moscow ddod i ben.
Yn annisgwyl ddydd Sadwrn, cyhoeddodd Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin ei fod yn fodlon cael saib yn yr ymladd o 16:00 ddydd Sadwrn tan 22:00 nos Sul.
Cyhoeddodd y Kremlin eu bod yn disgwyl i luoedd Wcráin barchu'r cadoediad, fyddai mewn grym am 30 awr tan nos Sul.
Cytunodd Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky i hynny.
Ond oriau yn ddiweddarach, dywedodd yr Arlywydd Zelensky fod Rwsia wedi ymosod droeon, ac roedd adroddiadau am sawl ymosodiad arall ddydd Sul y Pasg.
Fore dydd Sul, cyhoeddodd Arlywydd Wcráin, fod Rwsia'n dal i dargedu rhanbarthau yn Wcráin, ac yn ymosod gyda dronau o'r awyr ac ar y tir.
Nos Sul, daeth rhybudd gan luoedd Wcráin i bobl fod ar eu gwyliadwraeth yn ardal Kyiv a sawl rhanbarth arall.
Dros nos, cafodd ffrwydriadau grymus eu clywed yn ninas ddeheuol Mykolaiv.
Dyw byddin Rwsia ddim wedi gwneud sylw am yr ymosodiadau sydd wedi eu cofnodi.
Llun: Wochit