Newyddion S4C

Chwe Gwlad: Cymru yn herio'r Gwyddelod ar Rodney Parade

20/04/2025
Merched rygbi Cymru

Mae angen i Gymru "wella eu perfformiadau" wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Iwerddon yn y Chwe Gwlad.

Dyna farn Sean Lynn, sydd wedi gwneud dau newid i dîm Cymru i herio'r Gwyddelod ar gae Rodney Parade ddydd Sul.

Dyma fydd gêm gartref olaf y crysau cochion cyn iddynt gystadlu yng Nghwpan y Byd 2025 ar ddiwedd yr haf.

Y canolwr Hannah Jones sy’n arwain y tîm unwaith eto, tra bod yr is-gapten Alex Callender yn dechrau’n safle’r wythwr ar gyfer ei hymddangosiad cyntaf yn y Bencampwriaeth eleni, ar ôl gwella o anaf.

Bydd Georgia Evans, wnaeth gychwyn fel wythwr yn erbyn Ffrainc, yn symud i'r safle blaenasgellwr er mwyn gwneud lle i Callender.

Mae Cymru wedi curo’r Gwyddelod mewn tair o’r chwe gêm brawf ddiwethaf rhwng y ddwy wlad – gan gynnwys buddugoliaeth gofiadwy o 31-5 yng Nghaerdydd yn 2023.

Ond mae Sean Lynn yn disgwyl her anodd brynhawn dydd Sul.

“Dyma’n gêm gartref olaf ni ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad eleni ac mae’n rhaid i ni barhau i wella’n perfformiadau a datblygu ein ffordd o chwarae," meddai.

“Ry’n ni’n ceisio creu mwy gyda’r bêl ac mae’r chwaraewyr yn deall a derbyn y feddylfryd newydd yma. 

"Er mwyn i hyn fod yn effeithiol yn y pendraw, mae’n rhaid i ni weithio’n galetach fyth dros ein gilydd – ac yn yr eiliadau allweddol yng nghanol cyffro gêm brawf – mae’n rhaid i ni wneud y penderfyniadau cywir o dan bwysau.

“Mae Iwerddon yn dîm o safon – fel y maen nhw wedi dangos hyd yn hyn yn y Bencampwriaeth eleni. Ond rwyf wedi dweud wrth ein carfan ni i fod yn ddewr a mynegi eu hunain ar y cae er mwyn creu cynnwrf yn y dorf ac ysbrydoli eu cyd-chwaraewyr.

“Fydd hi ddim yn rhwydd o gwbl yn erbyn y Gwyddelod – ond ‘ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at yr her sydd o’n blaenau brynhawn Sul.”

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.