Newyddion S4C

Platfform Cymraeg newydd yn helpu plant i ddysgu sut i ynganu geiriau

darllen / plentyn ar ipad

Mae platfform darllen Cymraeg newydd yn helpu plant trwy eu dysgu sut i ynganu geiriau.

Mae gan Darllen Co, sydd wedi ei ddylunio gan athrawon, dros 52,000 o ddefnyddwyr.

Nod y platfform darllen digidol yw dysgu ynganiad geiriau i blant trwy lyfrau sydd yn cael eu darllen ar lafar.

Mae'n rhaid talu am y llyfrau ac mae dros 180 o lyfrau a chylchgronau gan dros 20 o awduron Cymraeg, yn ogystal â llyfrau sain a chwis integredig.

Hyd yma mae 300 o ysgolion cyfrwng Cymraeg eisoes wedi tanysgrifio i'r llwyfan, sydd hefyd yn cynnwys system asesu ac olrhain sy'n caniatáu i athrawon fonitro cynnydd dysgwyr.

'Newid sut mae pobl yn trin a thrafod y Gymraeg'

Mae modd defnyddio'r llwyfan ar unrhyw ddyfais ddigidol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru, sydd yn ariannu rhan o'r prosiect, mai Darllen Co yw'r unig lwyfan o'i fath yn Gymraeg.

Mae gan y llwyfan ddefnyddwyr yn yr Eidal, Texas, Dubai, Slofacia, Lloegr a Phatagonia, a'r gobaith yw ehangu i ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg, i helpu hyd yn oed mwy o ddysgwyr gyda'u sgiliau Cymraeg.

Dywedodd Mr Scozzi, athro yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin, Abertawe, bod y llwyfan wedi bod yn gymorth mawr i athrawon.

"Ers esblygiad y llwyfan, rydym bellach yn mwynhau mwy o lenyddiaeth, nodweddion newydd a data mwy manwl i ni athrawon ei ddehongli," meddai.

"Ar ben datblygu sgiliau darllen rydym hefyd yn defnyddio'r llwyfan i brofi dealltwriaeth gyda chyfleoedd i blant ddatblygu sgiliau darllen a deall amrywiol.”

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford ei fod yn "wych gweld y rhan fwyaf o'n hysgolion cyfrwng Cymraeg yn defnyddio'r gwasanaeth."

"Mae'r gwasanaeth yn newid sut mae pobl yn trin a thrafod y Gymraeg yn ddigidol, o blant ysgol yng Nghaerdydd i siaradwyr Cymraeg ym Mhatagonia."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.