Newyddion S4C

Y brodyr Croft yn llawn hyder wrth baratoi i focsio eto

Heno

Y brodyr Croft yn llawn hyder wrth baratoi i focsio eto

Mae'r brodyr Ioan a Garan Croft yn dweud eu bod yn hyderus wrth iddyn nhw baratoi i focsio yn Abertawe nos Sadwrn.

Mae'r efeilliaid o Grymych, a wnaeth droi'n broffesiynol y llynedd, yn rhan o noson o focsio yng nghanolfan yr LC2.

Bydd Garan Croft yn wynebu Jordan Grannum mewn gornest pwysau canol, tra bod Ioan Croft, sydd yn bocsio ar bwysau welter, yn paffio Dzmitry Atrokhau o Felarws.

Hefyd ar y cerdyn, bydd Ethan George a Willy Gilheaney yn cystadlu am deitl pwysau canol Cymru, tra bod James Atkins a Connor McIntosh yn ymladd am deitl pwysau uwch ysgafn Cymru.

Mae'r brodyr Croft yn cael eu hyfforddi gan gyn bencampwr y byd, Anthony Crolla, yn ei gampfa yn Oldham, ger Manceinion.

"Mae popeth yn mynd yn dda yn y gym, mae popeth yn teimlo'n dda. Just yn edrych ymlaen nawr," meddai Garan Croft.

"Mae bocsio proffesiynol wedi mynd yn iawn so far. Dwi 'di ymladd tair gwaith yn barod nawr, edrych ymlaen am y pedwerydd tro.

"Dwi'n gobeithio dangos y bois nos Sadwrn be fi'n gallu neud."

Dywedodd Ioan Croft: "Ni 'di gweithio'n galed. Fi just yn barod i roi popeth mas ar sioe nawr nos Sadwrn.

"Aeth y ddau ffeit cyntaf yn dda i fi. Mae'n bach o step up nawr nos Sadwrn.

"Fi'n ffeitio boi o Belarws, mae e di cael tua 34 ffeit dwi'n meddwl. Mae'n tough iawn, felly bydd rhaid i fi berfformio'n dda. Ond dwi'n hyderus iawn."

Cefnogaeth Crymych

Fe gafodd y ddau frawd yrfaoedd llwyddiannus fel bocswyr amatur, gan deithio ar draws y byd.

Fe enillodd Ioan fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2022 a medal efydd ym Mhencampwriaethau Ewrop, tra bod Garan wedi ennill efydd yng Ngemau'r Gymanwlad a'r arian ym Mhencampwriaethau Ewrop.

Ond nawr yn broffesiynol, maent yn edrych ymlaen i ddychwelyd i Gymru a chael cefnogaeth yn eu milltir sgwâr.

Dywedodd Ioan: "Mae'n neis bod nôl yng Nghymru yn bocsio.

"Fel amateurs, do'n ni byth yma, ni wedi bod ar draws Ewrop i gyd. I fod nôl gartre', pawb yn gallu dod i wylio, mae'n neis iawn.

"Ni'n ffeitio nawr yn Abertawe. Fydd cefnogaeth da yn dod lan o ardal Crymych ag Aberteifi. Byddan nhw tu ôl i ni, fel oedden nhw lan yn Caerdydd."

Ychwanegodd Garan: "Ni'n bocsio ar yr un noson eto, sydd yn dda i'r cefnogwyr hefyd, value for money iddyn nhw cael gweld y ddau ohonon ni.

"Ni 'di bod dros Ewrop, dros y byd, a bod nôl yng Nghymru ma fe'n brilliant cael pobl lan yna'n cefnogi ni.

"Mae'r siorts bach yn wahanol tro 'ma ond maen nhw dal mewn lliwiau Crymych.

"Dwi'n gobeithio am perfformiad da, bocsio'n dda a cael y knockout. Fyddai'n edrych am y stoppage, definitely."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.