Rygbi: Johnny Sexton wedi ei enwi yn un o hyfforddwyr y Llewod
Mae cyn faswr Iwerddon, Johnny Sexton, wedi’i enwi fel aelod o dîm hyfforddi Llewod Prydain ac Iwerddon ar gyfer taith yr haf i Awstralia.
Fe wnaeth Sexton, y person sydd wedi sgorio’r nifer fwyaf o bwyntiau dros Iwerddon, ymddeol o chwarae yn dilyn Cwpan y Byd yn 2023.
Mae wedi gweithio fel ymgynghorydd i dîm hyfforddi Iwerddon ers 2024.
Ac mae Prif Hyfforddwr y Llewod a thîm cenedlaethol Iwerddon, Andy Farrell, wedi penderfynu cynnwys y Gwyddel, sydd wedi chwarae mewn chwe phrawf dros y Llewod, ar gyfer y daith eleni.
Fe fydd y Llewod yn chwarae 10 gêm dros yr haf, gan gynnwys tri phrawf yn erbyn y Wallabies.
Ar ôl dwy flynedd heb fawr lwyddiant i dîm cenedlaethol Cymru, mae llawer yn rhagweld na fydd llawer o Gymry yn cael eu cynnwys yn y garfan eleni.
Llun: Asiantaeth Huw Evans