Rhybudd am 10 wythnos o dagfeydd traffig ger Ysbyty Gwynedd
Ysbyty Gwynedd, Bangor
Fe allai gwaith ffordd ger Ysbyty Gwynedd ym Mangor amharu'n sylweddol ar draffig ger yr ysbyty am gyfnod o 10 wythnos.
Mae disgwyl i'r gwaith, rhwng cylchfan Ysbyty Gwynedd a Ffordd Cae Cilmelyn, beri "cryn darfu i lif y traffig yn yr ardal oherwydd tagfeydd cynyddol."
Er mwyn helpu i osgoi oedi a sicrhau na fydd apwyntiadau'n cael eu colli, mae cleifion ac ymwelwyr yn cael eu hannog yn gryf i adael amser teithio ychwanegol wrth ddod i'r ysbyty.
Dywedodd Paul Andrew, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cymuned Iechyd Integredig y Gorllewin ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Oherwydd gwaith ffordd arfaethedig yn yr ardal gyfagos, rydym yn cynghori'r holl gleifion ac ymwelwyr yn garedig i adael amser ychwanegol wrth deithio i'r ysbyty.
"Mae'r gwaith hwn yn debygol o beri oedi, ac rydym yn awyddus i sicrhau bod pawb yn cyrraedd ar amser ar gyfer eu hapwyntiadau.
"Rydym yn ddiolchgar o gael eich cydweithrediad a'ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn."
Mae'r gwaith ffordd yn rhan o Gynllun Teithio Llesol Ffordd Penrhos, sef prosiect i wella darpariaeth gerdded a beicio yn yr ardal, ar ran Cyngor Gwynedd.
Disgwylir i ddulliau rheoli traffig fod ar waith 24 awr y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Caiff goleuadau traffig dros dro eu defnyddio i reoli llif y traffig, a gaiff eu rheoli â llaw rhwng 07.30 a 20:00.
Ni fydd unrhyw waith dros y penwythnos yn ystod cyfnod y cynllun.