Arestio gyrrwr lori wedi i ddyn farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A55
Mae gyrrwr lori wedi'i arestio ar ôl i ddyn 35 oed farw ar ôl gwrthdrawiad ar ffordd yr A55 yn Sir Ddinbych.
Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw am 08.14 fore dydd Mawrth i lôn orllewinol yr A55 ger Gwasanaethau Cinmel ym Modelwyddan.
Fe wnaeth swyddogion ddarganfod corff cerddwr gwrywaidd ar y safle.
Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Cafodd y ffordd i gyfeiriad y gorllewin ei chau er mwyn i'r heddlu ymchwilio i'r digwyddiad.
Yn ddiweddarach, cafodd gyrrwr lori 62 oed ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Dywedodd yr heddlu bod eu hymchwiliadau'n parhau a bod y ffordd wedi'i hailagor am 16.45.
Mae'r llu bellach yn apelio am lygad-dystion i'r digwyddiad.
"Rydym yn apelio ar unrhyw un a deithiodd ar hyd yr A55 rhwng 04.50 a 05.10, rhwng Llanelwy ac Abergele ar y ffordd tua’r gorllewin neu tua’r dwyrain, ac sydd â lluniau dashcam, neu a welodd gerddwr ar y ffordd, i gysylltu â ni gan ddyfynnu'r cyfeirnod C053155," meddai llefarydd.