Gŵyl lenyddol yn canslo sgwrs am hunangofiant y cyn AS Jonathan Edwards
Gŵyl lenyddol yn canslo sgwrs am hunangofiant y cyn AS Jonathan Edwards
Mae gŵyl lenyddol yn Sir Gâr wedi canslo sgwrs gyda'r cyn-Aelod Seneddol Jonathan Edwards am ei hunangofiant.
Roedd y digwyddiad i fod i'w gynnal ar 25 Ebrill, yn ystod Gŵyl Lên Llandeilo.
Ond mae'r ŵyl wedi cyhoeddi nos Fawrth na fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan eu bod yn teimlo "nad yw natur a chynnwys y llyfr yn cyd-fynd gyda gwerthoedd ac egwyddorion yr ŵyl".
Roedd Jonathan Edwards yn Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr rhwng 2010 a 2024.
Roedd yn aelod Plaid Cymru tan 2020, pan gafodd ei wahardd o'r blaid wedi iddo gael rhybudd gan yr heddlu am ymosod ar ei wraig, a hynny yn dilyn digwyddiad yn y cartref teuluol.
Mae'r ddau bellach wedi gwahanu.
Roedd yn Aelod Seneddol annibynnol ar ran yr etholaeth tan 2024.
Dewisodd beidio â sefyll fel ymgeisydd yn yr Etholiad Cyffredinol y llynedd.
Roedd y noson i drafod ei hunangofiant Into The Abyss yn Ngŵyl Lên Llandeilo wedi ei hysbysebu o dan y teitl : Gwleidyddiaeth, pŵer a chyfrinachau yn cael eu datgelu!
'Annifyrrwch'
Ond mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol nos Fawrth, dywedodd llefarydd ar ran yr ŵyl.
"Ar ôl ystyried yn ofalus, mae ymddiriedolwyr Gŵyl Len Llandeilo wedi penderfynu na fydd y digwyddiad gyda Jonathan Edwards yn cymryd lle.
"Fel Gŵyl, mi 'rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofod cynhwysol a chroesawgar i'r rhai sydd yn cymeryd rhan a'r rheiny sydd yn mynychu'r Ŵyl.