Caergybi: Carcharu dyn am ymosod ar blismyn
Mae dyn 34 oed wedi cael ei garcharu ar ôl iddo ymosod ar blismyn yng Nghaergybi ar Ynys Môn.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug, cyfaddefodd Brian George Owens iddo ymosod ar weithiwr brys, dau gyhuddiad o fygythiadau i ladd, ac o ymosod a thorri gorchymyn ymddygiad troseddol.
Cafodd swyddogion eu galw ar 27 Chwefror i ddelio ag ymosodiad ar Ffordd Turkey Shore yn y dref.
Aeth swyddogion i'r ardal a dod o hyd i Owens a ymosododd yn dreisgar arnyn nhw.
Cafodd ei garcharu am flwyddyn a 10 mis.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Wayne Francis: "Ni fyddwn yn goddef unrhyw ymosodiad ar weithwyr y gwasanaethau brys sy'n ceisio gwneud eu gwaith i gadw eraill yn ddiogel.