Newyddion S4C

Dynes o Fôn a oedd yn rhan o baratoadau D-Day wedi marw

Dorothy Dickie

Mae dynes o Ynys Môn, oedd wedi helpu cyn-Brif Weinidog y DU Winston Churchill i baratoi ar gyfer D-Day, wedi marw.

Bu farw Dorothy Dickie o Fiwmares yn 102 oed mewn cartref preswyl yn y Felinheli.

Roedd yn briod â'r diweddar Jack Dickie, yn fam i Malcolm ac Andrew, ac yn fam yng nghyfraith i Fatemeh.

Fe gafodd ei magu ym Mangor, gan astudio yn Ysgol Ramadeg y Merched Bangor.

Yn 18 oed fe ymunodd â Gwasanaeth Menywod y Llynges Frenhinol (y Wrens) yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Fe gafodd hyfforddiant mewn trosglwyddo signalau ar yr HMS Mercury yn Hampshire, gan fynd ymlaen i wasanaethu ar safle HMS Vectis ar Ynys Wyth.

Erbyn 1944, roedd Ms Dickie wedi'i lleoli yn Southwick House ger Portsmouth, er mwyn trosglwyddo signalau i HMS Dryad.

Daeth Southwick House yn bencadlys i’r Cynghreiriaid wrth iddyn nhw gynllunio i agor ffrynt gorllewinol y rhyfel ar gyfandir Ewrop yn erbyn y Natsïaid.

Rôl y Wrens ar y safle oedd diweddaru map enfawr o'r Môr Udd ac arfordir de Lloegr a gogledd Ffrainc.

Image
Dorothy yn ystod ei chyfnod yn gweithio i Lynges Frenhinol y Merched
Dorothy Dickie yn ystod ei chyfnod yn gweithio i'r Wrens yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Roedd Ms Dickie yn cario negeseuon ac ambell baned i Winston Churchill, Prif Weinidog y DU ar y pryd, a Dwight D. Eisenhower.

Dywedodd fod Eisenhower, sef arweinydd milwrol y Cynghreiriaid yn Ewrop ar y pryd, wedi rhoi llysenw newydd iddi.

"Roedd o’n dweud, ‘where’s that little Welsh girl’, dwi’n meddwl oherwydd roeddwn i’n siarad cryn dipyn," meddai.

"Ro’n i’n fyr, gyda gwallt tywyll ac yn edrych ac yn swnio yn wahanol iawn i’r merched eraill oedd yn gweithio yno.

"Ro’n i’n gweithio yn y Map Room, ac roedd yn rhaid i ni roi’r signalau cywir ar y mapiau mawr. Roedden ni’n gwthio’r llongau gyda ffyn hir.

"Ond un peth chefais i fyth y cyfle i wneud oedd mynd ar yr ystol i newid y map. Dwi’n meddwl efallai achos fy mod i’n fyr.

"Roedden ni’n chwarae cerddoriaeth drwy’r nos, wrth i ni weithio, er mwyn trio ein cadw ni yn effro."

Yn Southwick House y gwnaeth Eisenhower y penderfyniad hanesyddol i yrru tri miliwn o ddynion a 2,727 o longau i lannau Normandi ar gyfer Operation Overlord, sef y cyrch morwrol mwyaf erioed.

Image
Dorothy ac Andrew Dickie
Dorothy Dickie a'i mab, Andrew, yn 2021 (Llun: RAYC/Ian Bradley)

Yn dilyn y rhyfel fe wnaeth Dorothy briodi Jack Dickie, yn Eglwys Gadeiriol Bangor yn 1947.

Roedd yn rhedeg iard gychod Dickie’s yn lleol.

Cafodd y ddau ddau o blant ac fe wnaeth Ms Dickie weithio ar yr iard am nifer o flynyddoedd.

Fe symudodd y teulu i Fiwmares yn 1962, lle bu'n byw hyd nes iddi symud i gartref preswyl rai blynyddoedd yn ôl.

Bydd ei hangladd yn cael ei gynnal ddydd Iau ym Miwmares, Ynys Môn.


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.