Newyddion S4C

Caersws: Cynllun i adeiladu 29 o dai gam yn agosach

Caersws flooding.

Fe allai cynllun i godi tai newydd ar ddarn o dir sydd wedi profi llifogydd gael ei ganiatáu wedi i Lywodraeth Cymru benderfynu gadael y penderfyniad yn nwylo cynghorwyr.

Mae'r cais cynllunio ar gyfer adeiladu 29 o dai ym Mhen-y-borfa, ar gyrion pentref Caersws ym Mhowys.

Mae’r cais wedi’i wneud gan gwmni Towyn Marine Properties Ltd, ar ran perchnogion y tir, Alwyn a Geraint Jarman.

Mae’r safle wedi’i glustnodi yn y Cynllun Datblygu Lleol fel tir ar gyfer tai, ac fe gafodd cais amlinellol am 43 o dai ac unedau llety gwarchod (sheltered accommodation) ei ganiatáu yn 2020.

Yn 2023, cafodd cais i newid y caniatâd er mwyn dileu’r gofyniad am lety gwarchod ar y safle ei wrthod. Fe ddywedodd adran gynllunio’r cyngor ar y pryd y byddai angen creu cais o’r newydd er mwyn newid maint y datblygiad.

Fis Chwefror eleni, daeth y cais i sylw Pwyllgor Cynllunio’r cyngor, gyda’r mwyafrif o gynghorwyr o blaid caniatáu’r datblygiad.

Ond roedd yr aelodau’n gwrthwynebu’r cynllun eisoes wedi ei gyfeirio at adran gynllunio’r Llywodraeth - Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC).

Ar ôl ystyried y cais, mae’r Llywodraeth bellach wedi penderfynu peidio cymryd cyfrifoldeb dros y penderfyniad.

Dywedodd pennaeth gwaith achos cynllunio Llywodraeth Cymru, Hywel Butts: “Ar ôl ystyried y cais rwyf wedi penderfynu nad yw’r materion a godwyd yn fwy na phwysigrwydd lleol.

“Yn wyneb hyn, rwy’n ystyried na ddylai’r cais gael ei alw i mewn i weinidogion Cymru benderfynu arno a’ch awdurdod chi yn awr yw penderfynu ar y cais fel y gwêl yn dda.”

Mae hyn yn golygu y gall y cyngor nawr roi caniatâd cynllunio swyddogol ar gyfer y datblygiad.

Yng nghyfarfod y pwyllgor cynllunio ar Chwefror 19 roedd rhai cynghorwyr wedi bod eisiau oedi cyn penderfynu’r cais er mwyn gallu gwneud cais draenio cynaliadwy a fyddai’n edrych ar yr holl fesurau i leihau’r perygl o lifogydd ar y safle.

Ond roedd eraill yn credu y byddai'r cais yn cael ei ganiatáu ar apêl a phleidleisiodd o blaid y cynllun.

Llun: Lluniau drôn diweddar o lifogydd ar dir yng Nghaersws (Caersws Residents Group)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.