Caernarfon: Cwest yn clywed fod dyn oedrannus wedi boddi
Mae cwest i farwolaeth dyn oedrannus o Gaernarfon wedi clywed ei fod wedi boddi ar ôl gadael clwb hwylio'n y dref.
Bu farw George Alun Jones, oedd yn 84 oed, ar 27 Mawrth eleni.
Roedd yn dechnegydd gwyddoniaethau morol oedd wedi ymddeol.
Wrth agor y cwest i'w farwolaeth yng Nghaernarfon ddydd Mawrth, dywedodd Sarah Riley, Crwner Cynorthwyol Ei Fawrhydi dros Ogledd Orllewin Cymru, fod Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn adroddiad ychydig wedi hanner nos ar noson ei farwolaeth yn codi pryderon am leoliad Mr Jones.
Roedd wedi gadael clwb hwylio'r dref am 22:30 ond nid oedd wedi dychwelyd adref.
Roedd yn defnyddio cerbyd sgwter i deithio o le i le. Am 01:17 fe wnaeth heddwas ddod o hyd i'r sgwter yn y dŵr yn Noc Fictoria.
Yna am 04:46 fe dderbyniodd yr heddlu alwad gan griw bad achub yn dweud eu bod wedi dod o hyd i gorff yn y Fenai.
Yn ddiweddarach fe ddaeth cadarnhad mai corff Mr Jones oedd wedi ei ddarganfod.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd.
Fe ddaeth casgliadau cychwynnol archwiliad post mortem i'r casgliad fod Mr Jones wedi boddi ac roedd clefyd y galon ganddo hefyd.
Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i'r awdurdodau gwblhau eu hymchwiliadau.