Diweddariad am ddiflaniad dau o Geredigion sydd ar goll ers wythnos
Mae bachgen a merch 16 oed sydd wedi bod ar goll o ardal Aberteifi yng Ngheredigion ers wythnos wedi eu gweld yn Aberystwyth, ddiwrnod wedi iddynt gael eu gweld yn Llandudno, meddai’r heddlu.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod teuluoedd Isobel a Daniel yn pryderu amdanynt wedi iddyn nhw fethu â chysylltu ers wythnos bellach.
Cafodd y ddau eu gweld ar Ffordd Alexandra yn Aberystwyth am 12:30 ddydd Gwener 11 Ebrill.
Y gred yw eu bod nhw wedi dal y bws T1 wnaeth adael y dref am 12:36 y diwrnod hwnnw.
Roedden nhw wedi eu gweld yn Llandudno am 20:20 ddydd Iau diwethaf ac wedi gofyn am gyfarwyddiadau i ardal Dolgellau, meddai Heddlu Dyfed-Powys.
Y gred yw eu bod nhw wedi mynd ag offer gwersylla gyda nhw a fod ganddyn nhw gysylltiadau yng ngogledd Cymru a hefyd Glannau Mersi a Sir Gaerloyw yn Lloegr.
Mae Isobel yn bum troedfedd a thair modfedd o daldra ac fel arfer mae ganddi wallt melyn, ond mae'n bosibl ei bod wedi lliwio ei gwallt i liw tywyllach.
Fe’i gwelwyd ddiwethaf yn gwisgo cot ddu mewn steil parker gyda ffwr, trowsus loncian llwyd, yn cario sach gefn ddu.
Mae Daniel yn chwe troedfedd un modfedd o daldra gyda gwallt brown tywyll byr, gyda’r ochrau wedi eu heillio.
Gwelwyd ef ddiwethaf yn gwisgo cap du gyda marciau gwyn ar y blaen, jîns glas tywyll, crys-t du, a chot ddu, yn cario sach gefn fawr, sy'n ddu, coch a llwyd.
Mae’n bosib eu bod nhw wedi newid eu dillad ers hynny.