Seren Real Madrid yn un o berchnogion clwb Abertawe?
Fe allai un o sêr Real Madrid fod yn un o berchnogion newydd Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn ôl adroddiadau.
Mae disgwyl i gapten Real Madrid a Croatia Luka Modrić, 39 oed, gael ei benodi yn un o berchnogion newydd y clwb yn ôl y newyddiadurwr pêl-droed Fabrizio Romano.
Ni fyddai hynny yn effeithio ar ei yrfa fel pêl-droediwr proffesiynol yn ôl Mr Romano.
Enillodd Modrić y Ballon d'Or yn 2018.
Inline Tweet: https://twitter.com/FabrizioRomano/status/1911743912550584754
Mae disgwyl iddo ymuno ag Andy Coleman, Brett Cravatt, Nigel Morris a Jason Cohen fel rhan-berchnogion y clwb.
Fe gafodd perchnogion newydd Abertawe eu cyhoeddi ym mis Tachwedd y llynedd, wedi i Jason Levien a Steve Kaplan werthu eu cyfran o'r clwb.
Fe wnaeth y dyn busnes Andy Coleman addo "cyfnod newydd" wedi iddo gymryd yr awenau, gan ddweud mai ei freuddwyd oedd gweld Abertawe yn dychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr.
Mae Abertawe yn 12fed ar hyn o bryd yn y Bencampwriaeth, wyth pwynt o'r gemau ail-gyfle gyda phedair gêm yn weddill o'r tymor.
Does gan y clwb ddim rheolwr parhaol ar hyn o bryd, wedi i Luke Williams gael ei ddiswyddo ym mis Mawrth, ac Alan Sheehan yn rheolwr dros dro ers hynny.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda'r clwb am sylw.